Eco-Schools
A A A

Mae’r wobr fawreddog Earthshot Prize yn her fyd-eang sy’n seiliedig ar bum Earthshot – nodau uchelgeisiol ar gyfer 2030 i ddatrys ein problemau amgylcheddol mwyaf.

Mae’r wobr a gafodd ei lansio ym mis Hydref 2020 gan Dywysog Cymru a’r Sefydliad Brenhinol yn gwobrwyo syniadau mawr arloesol sy’n darparu atebion i atgyweirio’r blaned cyn bod niwed gwrthdoradwy yn digwydd.

Gallwch ddysgu mwy am rhai o’r arloeswyr ysbrydol a sut maen nhw’n defnyddio eu syniadau mawr i newid y byd ar wefan Earthshot.

Cystadleuaeth i ysgolion yng Nghymru

Ysbrydolwyd gan Wobr Earthshot ac mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, fe wnaethon ni lansio her arloesi ysgolion ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru – Her Hinsawdd Cymru 2025.

Rydym yn  gwybod bod gan bobl ifanc rai o’r atebion y mae ein planed eu hangen eisoes a’u bod yn gweithio’n galed i wneud newidiadau yn eu cymunedau ysgol.

Mae’r her hon yn ymwneud â dathlu atebion sydd wedi’u creu yn barod neu’n cael eu cynllunio mewn ysgolion yn ogystal â defnyddio meddylfryd dylunio i ddod o hyd i atebion newydd i un o’r pum her fyd-eang.

Mae ceisiadau fideo ar gyfer Her Hinsawdd Cymru bellach ar gau. Diolch i’n hysgolion anhygoel a gyflwynodd gais eleni.

Her Hinsawdd Cymru 2025

Yr Earthshots

Cymerwch olwg ar bum thema Earthshot, a chwrdd â’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol a’r enillwyr eleni. Cliciwch ar y blychau isod i archwilio pob un.

Adeiladu Byd Diwastraff

Canfod mwy
Glanhau Ein Haer

Canfod mwy
Trwsio Ein Hinsawdd

Canfod mwy
Adfywio ac Adfer Natur

Canfod mwy
Adfywio Ein Cefnforoedd

Canfod mwy

Pan sefydlais brosiect Her Hinsawdd Earthshot Cymru yn 2021, roeddwn eisiau creu rhywbeth gwahanol – llwyfan fyddai’n rhyddhau dawn greadigol ac angerdd pobl ifanc yng Nghymru i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Yr hyn sy’n gwneud y prosiect hwn yn arbennig yw ei fod yn cysylltu gweithredu lleol â meddwl yn fyd-eang. Ledled Cymru, rydym wedi gweld partneriaethau anhygoel rhwng ysgolion a sefydliadau amgylcheddol, lle mae myfyrwyr nid yn unig yn dysgu am newid hinsawdd – maent yn cymryd camau gweithredu gwirioneddol yn ymwneud â’r hinsawdd bob dydd. Mae’r egni a’r arloesi yr wyf wedi gweld gan y bobl ifanc hyn wedi bod yn anhygoel. Dyma’r math o weithredu ymarferol, wedi ei arwain gan ieuenctid, sydd ei angen ar Gymru wrth i ni geisio creu dyfodol mwy cynaliadwy – un lle mae pobl ifanc nid yn unig yn etifeddu ein heriau amgylcheddol, ond yn meddu ar y sgiliau a’r hyder i’w datrys.

Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan

Mae plant a phobl ifanc yn hanfodol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur. Mae eich lleisiau, eich atebion a’ch syniadau ar y cyd yn gallu sbarduno newid gwirioneddol yn eich ysgolion a’ch cymunedau. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi’r gweithredu sydd ei angen yn ymwneud â’r hinsawdd, a dyma pam rwyf yn llawn cyffro i’ch gwahodd i fod yn rhan o Her Hinsawdd Cymru. Dyma eich cyfle i gymryd camau ystyrlon a rhannu eich atebion arloesol gydag eraill. Rydych yn gweithio i greu’r dyfodol yr ydych yn ei haeddu, ac mae’r gystadleuaeth hon yn llwyfan rhagorol i barhau â’ch taith i fod yn hyrwyddwyr newid hinsawdd yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at weld y gwaith anhygoel yr ydych yn ei wneud a chanfod sut y gallwn i gyd wneud gwahaniaeth gyda’n gilydd. Dewch i ni ysbrydoli ein gilydd a phobl eraill i gymryd camau dewr tuag at ddyfodol cynaliadwy.

Dirprwy Brif Weinidog Cymru Huw Irranca-Davies

Mae gan blant gysylltiad cynhenid â natur ac mae Her Hinsawdd Cymru yn cynnwys pobl ifanc yn ystyrlon yn yr ymdrech ar y cyd i sicrhau bod Cymru yn gynhwysol, yn ffynnu ac yn wyrdd ar gyfer cenedlaethau i ddod. Mae prosiect eco-sgolion Cymru eisoes wedi bod yn llwyddiant mawr ac wrth i ni nodi 10 mlynedd o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, rwyf yn llawn cyffro i weld syniadau, heriau ac egni stiwardiaid ifanc y blaned.

Derek Walker
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru