£14.53 – £134.41Price range: £14.53 through £134.41 ex. Vat
Wedi ei ddylunio yn arbennig i blant ac yn dod â Chodi Sbwriel yn fyw, mae gan Godwr Sbwriel Graptor i Blant ddelwedd draig fel rhan o’r dyluniad.
I wneud pethau’n haws, mae’r ‘dannedd’ ar enau’r Graptor wedi eu teilwra i godi sbwriel mor gyflym â phosibl, ac mae’r lliw llachar yn helpu’r plentyn i weld y sbwriel. Mae’r ddolen gyfforddus hefyd yn rhoi gafael cadarn i’r plentyn wrth ddefnyddio’r codwr sbwriel. Mae plant wrth eu bodd yn defnyddio’r Graptor: mae codi sbwriel yn dod yn ymarfer dysgu awyr agored cyffrous, a byddant eisiau gwneud hyn dro ar ôl tro!
Nodweddion y Graptor:
Mae’r Helping Hand Company yn aelod corfforaethol arian ac yn gynhyrchydd offer clirio sbwriel yn y DU. Am bob codwr sbwriel a archebir trwy ein siop ar-lein, bydd Helping Hand yn cyfrannu canran o bob gwerthiant yn ôl i Cadwch Gymru’n Daclus.
Nid oes unrhyw adolygiadau eto.
Your email address will not be published. Required fields are marked *
Eich adolygiad *
Name *
Email *
Save my name, email, and website in this browser for the next time I comment.
Mae gafaelwr y codwr sbwriel plygadwy yn ysgafn iawn o ran dyluniad ac yn 100% ailddefnyddiadwy – gyda chydrannau glân y gellir eu sychu – sydd yn wych ar gyfer codi sbwriel wrth fynd ar eich pen eich hun.
Mae bod yn weladwy yn rhan bwysig iawn o godi sbwriel, i bobl o bob oed.
Mae eich Handi Cart Duo NEWYDD yn helpu i wahanu sbwriel – sydd yn newid y ffordd yr ydym yn rheoli ac yn casglu sbwriel, gan ddatblygu arferion gwaith gwell.
Cyfaill gorau’r codwr sbwriel, mae’r agorwr sachau, Handihoop, yn ddefnyddiol iawn os ydych yn cynnal ymgyrch glanhau.
Rydyn ni’n rhoi wyneb newydd ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus ac yn awyddus i glywed eich barn. Dim ond 3–4 munud mae’r arolwg yn ei gymryd, ac fe wnaiff eich adborth wirioneddol wneud gwahaniaeth.