Nôl yn 2006, galwodd Cadwch Gymru’n Daclus am Gynllun Dychwelyd Ernes (CDE) gorfodol ar gyfer cynwysyddion diodydd plastig, gwydr a metel. Ddeunaw mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn dal wedi ein siomi gyda phenderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chynnwys gwydr yn eu cynlluniau.
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn cefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru i adael CDE Llywodraeth y DU, gan eu galluogi i weithredu cynllun sy’n cyd-fynd ag uchelgais mentrus Cymru ar gyfer ailgylchu ac ailddefnyddio. Mae Cymru yn parhau i arwain lle mae eraill ar ei hôl hi, yn hyrwyddo system gyflawn sydd yn atgyfnerthu ein henw da fel arweinwyr ailgylchu byd-eang.
Er bod yr oedi’n rhwystredig, y penderfyniad hwn yw’r un cywir i Gymru yn yr hirdymor. Gyda rhai o’r cyfraddau ailgylchu uchaf yn y byd, byddai mabwysiadu system nad yw’n cynnwys gwydr nid yn unig yn cynnig gwerth gwael am arian ond hefyd yn lleihau effaith bosibl y cynllun yn sylweddol.
Mae CDE wedi ei ddylunio’n dda yn dda i natur, yn dda i gymunedau, ac yn dda i economi’r dyfodol. Dewch i ni gyflawni hynny.
30/09/2025
21/07/2025
17/07/2025
Rydyn ni’n rhoi wyneb newydd ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus ac yn awyddus i glywed eich barn. Dim ond 3–4 munud mae’r arolwg yn ei gymryd, ac fe wnaiff eich adborth wirioneddol wneud gwahaniaeth.