Os ydych wedi derbyn pecyn Lleoedd Lleol ar gyfer Natur gan Cadwch Gymru’n Daclus ers i’r cynllun gael ei lansio yn 2020, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais. Bydd angen i chi lenwi’r Ffurflen Mynegi Diddordeb fer isod.
Mae’r Pecynnau Adlenwi yn rhad ac am ddim ac yn cynnwys eitemau i wella eich man gwyrdd. Byddwch hefyd yn cael cyngor arbenigol gan un o’n swyddogion. Byddant yn eich helpu i osod eich eitemau adlenwi ac yn trafod ffyrdd eraill o sicrhau bod eich gardd yn ffynnu am flynyddoedd i ddod.
Mae ceisiadau ar gyfer Pecyn Adlenwi wedi’u dyrannu ar gyfer eleni. Fodd bynnag, mae croeso i chi wneud cais o hyd, ac os byddwch yn llwyddiannus, bydd eich cais yn cael ei roi ar ein rhestr wrth gefn ar gyfer Ebrill 2026.
Mae ein Tîm Natur wrth law i helpu.
Cysylltwch!
Rydyn ni’n rhoi wyneb newydd ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus ac yn awyddus i glywed eich barn. Dim ond 3–4 munud mae’r arolwg yn ei gymryd, ac fe wnaiff eich adborth wirioneddol wneud gwahaniaeth.