A A A

Cenhadaeth Genedlaethol am Gymru Heb Sbwriel erbyn 2030

Rhoi atal, gweithredu cymunedol a’r economi gylchol wrth wraidd cymunedau cryfach yng Nghymru

Wrth edrych ymlaen at etholiad y Senedd yn 2026, rydym yn galw ar bob plaid i ymrwymo i sicrhau bod gan bob cymuned yng Nghymru fannau cyhoeddus glân, gwyrdd a chroesawgar i bawb eu mwynhau.

Drwy ymrwymo i genhadaeth genedlaethol am Gymru heb lygredd erbyn 2030, gall y Llywodraeth nesaf greu gwelliannau gweledol a pharhaol i’r llefydd lle mae pobl yn byw, gweithio a chwarae, gan feithrin newid ymddygiad hirdymor sy’n dod â budd i bobl, y blaned a’n lleoedd.

Lawrlwythwch gopi o’n maniffesto yma.

Gofynion Ein Maniffesto

Mae’r canlynol yn weithredoedd syml, cost effeithiol, gyda ffocws, i gadw Cymru’n lanach, yn wyrddach ac yn fwy cydnerth.

Wedi eu datblygu ar y cyd gyda rhwydwaith cenedlaethol o grwpiau gwirfoddol lleol a Bwrdd Ieuenctid Cadwch Gymru’n Daclus, bydd y cynigion hyn yn helpu i gyflawni nodau hinsawdd, glendid a chymunedol Cymru.

Maent wedi cael eu profi i fod yn effeithiol, cyflwyno gwerth cryf am arian, cynnig gwelliannau gwirioneddol i bobl ar drothwy’r drws, ac, yn dyngedfennol, yn barod i ddatblygu’n genedlaethol yn gyflym.

Yn unol â’r pedwar maes yn ein strategaeth Cymru Hardd, rydym yn galw am y canlynol:

Cymorth sylfaenol

Er mwyn ein galluogi ni i barhau i gyflawni’r effaith gymunedol gadarnhaol yr ydym yn ei gosod yn Adroddiadau Effaith blynyddol Cadwch Gymru’n Daclus,  mae’n bwysig i’r Senedd nesaf fynd i’r afael â’r heriau sy’n sefyll rhyngom ni a dyfodol glanach, gwyrddach, sy’n cynnwys:

  • Cyllid aml-flwyddyn i’r trydydd sector: Darparu cyllid aml-flwyddyn y gellir ei ragfynegi i bartneriaid cyflawni yn y trydydd sector. Ni all sefydliadau fel ein sefydliad ni gyflawni newid ystyrlon ar raddfa genedlaethol ar gontractau byrdymor.
  • Cynllun Dychwelyd Ernes yn barod ar gyfer Ailddefnyddio erbyn 2027: Ymrwymo i Gynllun Dychwelyd Ernes, yn cynnwys gwydr, wedi ei gynllunio gydag ailddefnyddio yn greiddiol iddo. Os caiff ei wneud yn dda, gallwn leihau sbwriel diodydd hyd at 80%, creu swyddi lleol o ansawdd uchel, a datblygu economi gryfach, wyrddach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
  • Gwella Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr: CEC estynedig i gynnwys taliadau sbwriel, gan sicrhau bod llygreddwyr yn talu’r gost lawn am y pecynnu maent yn ei roi ar y farchnad.

Dileu sbwriel a gwastraff

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn arwain ymdrechion cenedlaethol i fynd i’r afael â sbwriel, adfer mannau gwyrdd, a chefnogi gweithredu sy’n cael ei arwain gan wirfoddolwyr sy’n gwella cymunedau Cymru. I gefnogi’r gwaith hwn, rydym yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i:

  • Adolygu a chyhoeddi Cynllun Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon Cymru gyda monitro blynyddol i olrhain cynnydd, tryloywder a chysondeb.
  • Cyflwyno deddfwriaeth Ailddefnyddio pellgyrhaeddol gyda thargedau graddol, rhwymol ar draws sectorau gwahanol i osod safonau sy’n arwain y byd a dileu rhwystrau presennol.
  • Cyflwyno Ardoll Cwpanau Untro ac ehangu’r gwaharddiad ar Blastigau Untro.
  • Cefnogi datblygiad parhaus system genedlaethol monitro data sbwriel at ddiben mesur cynnydd, cefnogi effeithlonrwydd gweithredol a galluogi atal.
  • Diwygio deddfwriaeth i alluogi gyrwyr i fod yn gyfrifol am daflu sbwriel o gerbydau (yn gyfwerth â throseddau gyrru eraill) ac ehangu pwerau gorfodi yn unol â hynny.
  • Cryfhau rheoliadau gwastraff trydanol ymhellach i fynd i’r afael â hyn fel y ffynhonnell wastraff sy’n tyfu gyflymaf yn y DU.
Young people litter picking

Gosod safonau ar gyfer rhagoriaeth amgylcheddol

Ar draws Cymru, rydym yn gosod y safon ar gyfer rhagoriaeth mewn parciau, ar draethau ac mewn twristiaeth gynaliadwy – gan hyrwyddo adferiad economaidd, rhagoriaeth amgylcheddol a balchder cenedlaethol. I gefnogi’r gwaith hwn, rydym yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i:

  • Gyflwyno diogelwch cyfreithiol ar gyfer parciau a mannau gwyrdd sydd yn berchen i’r cyhoedd a chyflwyno dyletswydd statudol i reoli’r rhain i safon Baner Werdd erbyn 2028.
  • Adolygu a chyhoeddi Cynllun Atal Sbwriel Morol cenedlaethol ar gyfer Cymru, sydd yn sicrhau bod ein harfordir yn cael ei reoli mewn ffordd sy’n bodloni ein hymrwymiadau byd-eang.

Creu ac adfer mannau gwyrdd

Trwy ein rhaglenni natur, mae Cadwch Gymru’n Daclus yn trawsnewid mannau segur yn gynefinoedd cymunedol sydd yn ffynnu, gan gefnogi adferiad natur, lles a mynediad cynhwysol lle mae ei angen fwyaf. I gefnogi’r gwaith hwn, rydym yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i:

  • Ymrwymo i Raglen ‘Natur Amrywiol’ 4 blynedd tebyg i Lleoedd Lleol ar gyfer Natur er mwyn ymgysylltu pob cymuned yng Nghymru yn yr ymgyrch i gyrraedd targedau 30×30. Hyrwyddo addysg a sgiliau sy’n seiliedig ar natur a thargedu ymdrechion i gyrraedd grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli a sicrhau llais cyfartal yn dwyn gweithredoedd ymlaen i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
  • Datblygu llwyddiant rhaglenni blaenorol fel Trefi Taclus a Caru Cymru, ymrwymo i adfer rhaglen ymgysylltu cymunedol 10 mlynedd i gefnogi gwirfoddolwyr, datblygu sgiliau ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol a meithrin mabwysiadu mannau gwyrdd i wella sefydlogrwydd cymunedol.
  • Cefnogi creu Gwasanaeth Iechyd ‘Naturiol’, sefydlu presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd mewn gofal iechyd prif ffrwd, wedi ei gefnogi trwy fuddsoddiad sector cyhoeddus hirdymor.

Grymuso pobl ifanc

Trwy ein gweithgareddau ymgysylltu ieuenctid, rydym yn paratoi pobl ifanc i arwain gweithredu ar yr hinsawdd a natur yn eu hysgolion a’u cymunedau. I gefnogi’r gwaith hwn, rydym yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i:

  • Ehangu rhaglen ryngwladol EcoSgolion yng Nghymru a chefnogi’r gwaith o ddarparu ‘Rhaglen Eco-Gampws ar gyfer colegau a Phrifysgolion’.
  • Cefnogi prosiect ‘Ysgolion Cylchol’ sy’n mabwysiadu’r dull Economi Gylchol o ddefnyddio adnoddau trwy hyfforddiant perthnasol a chefnogaeth dysgu.

Dibynadwy, wedi ei brofi ac yn barod i gyflawni

Ar adeg o newid gwleidyddol, cyllidebau caeth a chraffu cyhoeddus cynyddol, mae Cadwch Gymru’n Daclus yn bartner dibynadwy, wedi ei brofi sydd yn barod i gyflawni ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru.

Rydym yn deall realaeth cyfyngiadau cyllidebau, blaenoriaethau newidiol pleidleiswyr a’r angen am ganlyniadau gweladwy, mesuradwy gan Senedd fwy. Ond, rydym hefyd yn gweld y cyfle: i arwain trawsnewid gwyrdd sydd yn gwella bywyd bob dydd, yn cryfhau cymunedau ac yn cefnogi adnewyddu ecnomaidd ym mhob etholaeth yng Nghymru.

Lawrlwythwch gopi o’n maniffesto yma.

Mae Cymru lanach, wyrddach, fwy cydnerth o fewn cyrraedd.

“Mae Cymru lanach, wyrddach, fwy cydnerth o fewn cyrraedd. Mae’r gofynion yn y Maniffesto hwn wedi eu profi ac mae’r dymuniad am newid yn amlwg yn ein cymunedau.  Rydym nawr angen i Lywodraeth nesaf Cymru sbarduno’r newidiadau systemig fydd yn cyflawni dyfodol gwell i bawb.”

Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

 

Lawrlwythiwch ein maniffesto ar gyfer etholiadau Cymru

Os hoffech gopi pdf o’n maniffesto, gallwch ei lawr lwytho yma.

Os hoffech wybod mwy am ein maniffesto cysylltwch gyda’n Rheolwraig Polisi  jemma.bere@keepwalestidy.cymru