Roedd dysgwyr ifanc yn Ysgol Gynradd Abermorddu wedi rhoi eu sgiliau garddio ar brawf wrth iddynt hau a meithrin hadau pwmpen yn eu dosbarth.
Tra bod yr hadau’n egino, cafodd y disgyblion wers grefft yn defnyddio pren a gafodd ei roi gan fasnachwyr adeiladu lleol i wneud plannwr pren a’i lenwi â chompost.
Ar ôl i’r hadau ddechrau egino, fe wnaeth y plant eu trosglwyddo i’r clwt pwmpen ac roedd y staff a’r disgyblion yn gyfrifol am edrych ar eu hôl.
Erbyn diwedd tymor yr haf doedd y planhigion ddim wedi tyfu rhyw lawer. Fodd bynnag, ar ôl dychwelyd yn nhymor yr Hydref, roedd y disgyblion wrth eu bodd yn darganfod clwt pwmpen ffyniannus ac roeddent yn gallu dechrau eu cynhaeafu ar unwaith!
Roedd un o’r pwmpenni yn enfawr! Awgrymodd un o’r plant y byddai hyn yn wych ar gyfer gêm o ddyfalu pwysau’r bwmpen. Felly, fe benderfynon ni ei gwneud hi’n gêm a gwerthu tocynnau raffl er mwyn cael cyfle i ennill y bwmpen fwyaf. Gwerthodd y plant docynnau raffl ar draws yr ysgol gyfan am £1. Aeth yr arian a gafodd ei godi i gefnogi datblygiad pellach ein gardd.
Penderfynom ein bod am wneud rhywbeth ychydig yn wahanol i’n tyfu llysiau arferol yn ein rhandir. Dewison ni wneud y syniad pwmpen gan y byddai hyn yn rhywbeth hwyl y gall teuluoedd ei wneud gyda’i gilydd, wrth godi arian i barhau i gefnogi tyfu cynnyrch yn ein rhandir.
Roedd y plant i gyd yn gyffrous iawn i weld y pwmpenni’n tyfu a chael cyfle i ennill y pwmpenni neu ddyfalu’r pwysau cywir. Roedd enillwyr y gystadleuaeth mor gyffrous i fynd â’r pwmpenni adref. Roedd hyn wedi rhoi’r cyfle i deuluoedd dreulio amser gyda’i gilydd yn cerfio pwmpenni neu goginio gyda nhw.
Fe wnaethon ni rannu lluniau o’r plant gyda’u pwmpenni, yn ogystal â diolch i’r rhieni am helpu’r ysgol i godi £75 i fynd yn ôl i brynu hadau/planhigion ar gyfer ein hardal awyr agored. Bydd hyn yn ein galluogi i barhau i dyfu llawer o fwydydd gwahanol.
Mae’r plant eisoes wedi gofyn i blannu hadau pwmpen eto ac wedi rhannu syniadau gwahanol am yr hyn y gallem ei wneud gyda nhw’r flwyddyn nesaf!
"Roeddwn i mor gyffrous i ennill y bwmpen drymaf a doeddwn i ddim yn gallu stopio gwenu. Fe wnes i ei gerfio gyda Mam ac fe wnaethon ni wyneb doniol!" Sophia, Dosbarth 6
Sophia, Dosbarth 6
"Roedd hwn yn gyfle gwych i'r plant weld sut y gallan nhw godi arian i'w hysgol trwy feddwl am syniad a fyddai'n rhoi gweithgaredd hwyliog i'r disgyblion a'r teuluoedd ei wneud gyda'i gilydd." Mrs Cumberlidge, athrawes
Mrs Cumberlidge, athrawes
Ymuno â digwyddiad neu weminar, cofrestru eich diddordeb, neu ddysgu sut i wneud cais am wobr.
Darganfod sut mae ysgolion yn eich ardal yn gwneud ar y rhaglen Eco-Sgolion.
Rydyn ni’n rhoi wyneb newydd ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus ac yn awyddus i glywed eich barn. Dim ond 3–4 munud mae’r arolwg yn ei gymryd, ac fe wnaiff eich adborth wirioneddol wneud gwahaniaeth.