Beth yw Ardal Ddi-Sbwriel?
Fel rhan o Caru Cymru, mae’n bleser gennym lansio Ardaloedd Di-Sbwriel – cynllun newydd sbon wedi ei ddylunio i annog busnesau i gadw eu cymunedau’n ddi-sbwriel.
Rydym yn estyn allan i fusnesau ar draws Cymru i fabwysiadu ardaloedd penodol i’w glanhau yn rheolaidd. Y gobaith yw y bydd busnesau o bob math a maint yn cymryd rhan, o siopau pentref a swyddfeydd preifat i archfarchnadoedd ac ystadau diwydiannol.