A A A

Gadewch Olion Pawennau yn unig yr hydref hwn

Wrth i’r diwrnodau fyrhau, rydym yn lansio ein hymgyrch baw cŵn Gadewch Olion Pawennau yn unig, i annog perchnogion cŵn i helpu i gadw’r mannau rydym yn eu rhannu yn lân ac yn ddiogel.

Gan ei bod yn hysbys bod achosion o adael baw cŵn ar ôl yn cynyddu wrth i olau dydd leihau, rydym eisiau mynd i’r afael â’r mater ar draws Cymru. Gyda dyfodiad nosweithiau tywyllach a thywydd gwael, gall rhai perchnogion feddwl na fydd unrhyw un yn eu gweld yn gadael baw eu ci ar ôl neu efallai y byddant yn llai tebygol o aros yn yr oerfel a’r glaw, ond mae’r effaith ar y gofod yr ydym yn ei rannu hyd yn oed yn fwy nag y credwyd yn flaenorol.

Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Aberystwyth wedi bwrw goleuni ar berygl baw cŵn. Casglodd gwyddonwyr dros 150 o samplau o faw cŵn wedi eu gadael a 138 o samplau mewn bagiau o finiau baw cŵn yn ardal Aberystwyth a’u profi am barasitiaid gan ddefnyddio niferoedd yr wyau mewn carthion. Canfu’r astudiaeth fod 22.1% o’r samplau a adawyd yn cynnwys o leiaf un llyngyren barasitig, o’i gymharu â 6.5% o samplau oedd wedi cael eu codi. Profodd 14.4% o’r holl faw cŵn a brofwyd am barasitiaid yn bositif, gyda llyngyr bachog (6.8%) a llyngyr crynion milheintiol fel Toxocara canis (4.5%) ymysg y mwyaf cyffredin. Roedd samplau oedd wedi cael eu gadael 2.6 gwaith yn fwy tebygol o gynnwys heintiau na’r rhai a waredwyd yn gywir.

Dangosodd y canfyddiadau hefyd, er bod lefelau parasitiaid yn y baw mewn bagiau wedi aros yn sefydlog dros amser, roedd nifer yr wyau yn y carthion yn y samplau o faw wedi ei adael wedi torri i lawr a lledaenu i’r amgylchedd dros gyfnod o bythefnos, gan gynyddu’r potensial i halogi.

Mae ein hymchwil yn dangos cysylltiad clir rhwng baw cŵn a statws iechyd y cŵn eu hunain. Bydd cŵn nad yw eu perchnogion yn cael gwared ar lyngyr yn rheolaidd yn gadael parasitiaid niweidiol yn eu carthion, sydd yn gallu bod yn beryglus i bobl, anifeiliaid anwes eraill, a bywyd gwyllt lleol pan fyddant yn cael eu gadael mewn mannau cyhoeddus. Mae bod yn gyfrifol pan fyddwch yn berchen ar gi – gan gynnwys cael gwared ar lyngyr yn rheolaidd a chlirio ar ôl eich ci– yn hanfodol i gadw ein cymunedau yn ddiogel.

Dr Russ Morphew
Yn darllen biochemeg a pharasitoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth

Er bod arolygon LEAMS (System Reoli ar gyfer Archwilio’r Amgylchedd Lleol) Cadwch Gymru’n Daclus yn dangos tuedd am i lawr yn yr adroddiadau o faw cŵn ar strydoedd, mae’r mater yn dal yn eang mewn ardaloedd sydd heb eu cynnwys yn yr arolygon, yn cynnwys parciau, ymyl ffyrdd a llwybrau gwledig.

Mae’n galonogol gweld llai o ddigwyddiadau o faw cŵn ar ein strydoedd, ond nid yw hyn yn dweud y stori lawn. Gwyddom fod baw cŵn yn parhau i fod yn broblem ddifrifol mewn parciau a mannau gwyrdd, yn arbennig pan fydd y nosweithiau yn cau i mewn. Mae’n annymunol, ond mae hefyd yn berygl gwirioneddol i iechyd pobl ac anifeiliaid anwes. Does dim esgus – bagiwch, biniwch, a helpwch ni i gadw Cymru’n lân ac yn ddiogel i bawb.

Owen Derbyshire
Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

Sut y gallwch chi gymryd rhan

Gall bawb chwarae rhan yn diogelu mannau hardd Cymru yr hydref hwn. Dyma sut y gallwch gymryd rhan:

  • Byddwch yn berchennog cyfrifol– Pan fyddwch allan gyda’ch ci, bagiwch a biniwch eu carthion bob amser
  • Tagiwch ni yn eich anturiaethau – Rhannwch eich lluniau wrth i chi archwilio parciau, traethau a mannau gwyrdd anhygoel Cymru. Tagiwch @KeepWalesTidy ar y cyfryngau cymdeithasol a defnyddiwch #BagiwchBiniwch.
  • Helpwch i hyrwyddo’r ymgyrch – Eisiau gwneud mwy? Ewch i’n Brandbag i lawrlwytho deunyddiau ymgyrch am ddim, yn cynnwys graffeg a phosteri y cyfryngau cymdeithasol. Gallwch fynd i’n pecyn cymorth brand am fwy o wybodaeth a syniadau am negeseuon.

Nod yr ymgyrch, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yw annog perchnogion cŵn ledled Cymru i adael olion pawennau yn unig trwy lanhau ar ôl eu cŵn.

Erthyglau cysylltiedig

RSPCA gefnogi Gwanwyn Glân Cymru

02/04/2025

Darllen mwy
Cyflwyno Bin Môr Abertawe

19/02/2025

Darllen mwy
Cadwch Gymru’n Daclus yn dileu sbwriel cas!

24/01/2025

Darllen mwy
Angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â’r argyfwng sbwriel cynyddol

18/10/2024

Darllen mwy