Mae cerdded y ci yn un o bleserau syml bywyd ac mae’n dda iawn i’n lles, trwy ymarfer y corff a rhoi amser yn yr awyr agored. Er gwaethaf hyn, mae baw ci yn dal yn broblem barhaus mewn cymunedau ledled Cymru.
Rhwng 2024 a 2025, mae cyflwyniadau ein gwirfoddolwyr yn dangos cynnydd ym mhresenoldeb baw ci, gan gynyddu o 31.2% i 41.7% yn y drefn honno. Yn ogystal â hynny, fe wnaeth ein harolygon sbwriel ar gyfer 2025 ganfod baw ci ar 13.7% o safleoedd sy’n hygyrch i’r cyhoedd*, gydag amcangyfrif o 219,000 o achosion o faw ci ledled Cymru.
Mae sawl rheswm pam y gallai data gwirfoddolwyr fod yn wahanol i ddata ein harolwg sbwriel. Er enghraifft, rydym yn pwysleisio bod llawer mwy o wirfoddolwyr na’r pump arolygydd yn Cadwch Gymru’n Daclus, ac mae’r gwirfoddolwyr yn cwmpasu ardal llawer ehangach ac amrywiaeth llawer mwy o leoliadau na’n harolygwyr. Ond, mae edrych yn fanwl ar y data yn datgelu mewnwelediadau ymddygiadol a allai helpu i fynd i’r afael â’r broblem.
Er ein bod yn gweld llawer o faw ci rhydd neu heb ei roi mewn bag yn ein hardaloedd a rennir, mae ein data yn dangos bod bron hanner yr holl achosion o faw ci sy’n cael ei weld wedi cael ei roi mewn bag – arwydd clir bod llawer o bobl sy’n cerdded eu cŵn hanner ffordd tuag at wneud y peth iawn.
Mae prinder biniau yn cael ei ddefnyddio’n aml fel esgus ar gyfer gadael sbwriel neu faw ci, ond yn aml, nid mwy o finiau yw’r ateb. Er y gallai biniau sydd wedi eu gosod yn strategol ar lwybrau cerdded cŵn annog cerddwyr cŵn i gymryd y cam hanfodol o roi eu bag yn y bin, mae gennym i gyd yr opsiwn o fynd â’r gwastraff gartref i gadw ein cymunedau yn lân ac yn ddiogel.
Mae baw ci sy’n cael ei adael ar y ddaear neu ei waredu’n anghywir yn fwy na rhywbeth annymunol i edrych arno. Mae’n cyflwyno risg i’n hamgylchedd, bywyd gwyllt ac iechyd y cyhoedd.
Gall parasitiaid neu facteria a geir mewn baw ci gyflwyno risgiau sylweddol, yn amrywio o salwch ysgafn i gyflyrau difrifol fel tocsocariasis. Canfu un astudiaeth gan Brifysgol Aberystwyth fod baw ci heb ei gasglu 2.6 o weithiau yn fwy tebygol o gynnwys haint neu barasitiaid o’i gymharu â baw ci sydd wedi ei waredu’n gywir.
Gan mai plant sydd fwyaf tebygol o gamu mewn baw ci neu ei godi wrth iddyn nhw gerdded i’r ysgol neu chwarae mewn parciau, mae’n hanfodol bod cerddwyr cŵn yn gwneud y peth iawn trwy roi baw eu cŵn mewn bag a’i roi yn y bin.
Yn ogystal, mae baw ci mewn bag sydd yn aml yn cael ei daflu mewn perthi, ei hongian ar goed neu ei roi ar bwys biniau llawn yn creu problemau eraill. Mae bagiau baw ci, sydd yn aml wedi eu gwneud o blastig, yn cymryd amser hir i bydru ac wrth i hynny ddigwydd, maen nhw’n troi’n ficroblastigau, sydd yn achosi niwed hirdymor i’n priddoedd, ein dyfrffyrdd a’r amgylchedd ehangach.
Oeddech chi’n gwybod y gall gwastraff cŵn fynd i mewn i unrhyw fin sbwriel cyffredinol – nid oes rhaid iddo fod yn fin baw ci. Os nad oes unrhyw finiau ar gael neu os yw’r biniau’n llawn, mae’n bwysig ein bod yn mynd â gwastaff ein cŵn gartref i’w waredu’n gywir. Mae ei adael ar ôl, hyd yn oed os yw mewn bag yn daclus, yn dal i greu sbwriel (ac mae’n dal yn niweidiol)!
Mae ein neges yn syml – mewn bag, yn y bin a gadewch olion pawennau yn unig yr hydref hwn i gadw ein cymunedau yn lân ac yn ddiogel.
*Cynhelir arolygon sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus gan staff wedi eu hyfforddi ar strydoedd, mewn parciau neu fannau gwyrdd, traethau dŵr ymdrochi a hybiau trafnidiaeth. Nid ydym yn arolygu traffyrdd, ffyrdd cyflym nac ardaloedd pellennig ac anodd i’w cyrraedd.
Peidiwch anghofio rhannu eich data codi sbwriel trwy eCyfrif Cymru yma
27/10/2025
02/04/2025
19/02/2025
24/01/2025