A A A

Helpwch ni i ysbrydoli’r dysgwyr ieuengaf

Ydych chi’n addysgwr y blynyddoedd cynnar sy’n ysbrydoli, ac yn angerddol am yr amgylchedd? Gallai’r rôl Swyddog Eco-Tots fod yn gyfle perffaith i chi!

Mae Eco-Tots Cymru yn rhaglen newydd, gyffrous, wedi ei sefydlu i ymgorffori dysgu’n seiliedig ar natur a chynaliadwyedd i’r blynyddoedd cynharaf o fywyd plentyn. Yn seiliedig ar fframwaith rhyngwladol EcoSgolion, mae’n cynnig rhaglen cwbl ddwyieithog, sy’n briodol i oedran ar gyfer lleoliadau’r blynyddoedd cynnar ledled Cymru, tra hefyd yn creu cyfleoedd i gynnwys teuluoedd mewn addysg natur ac amgylcheddol.

Gwybodaeth allweddol

Cyflog:
£29,124

Yn atebol i:
Y Rheolwr Addysg

Cyfrifol am:
Ddatblygu a chyflawni Rhaglen Eco-Tots Cymru

Lleoliad:
Gweithio gartref

Ardal sy’n cael ei chynnwys:
Cymru gyfan

Daliadaeth:
Contract cyfnod sefydlog tair blynedd – wedi ei ymestyn yn amodol ar gyllid parhaus

Oriau:
35 awr yr wythnos gyda’r cyfle i weithio oriau hyblyg

Rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i iechyd a lles ein staff ac yn cynnig ystod eang o fuddion staff.

Os oes angen pecyn recriwtio arnoch mewn unrhyw fformat arall, cysylltwch â ni. E-bostiwch hr@keepwalestidy.cymru neu ffoniwch 029 2002 5695.

Beth ydyn ni'n chwilio amdano?

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sydd yn ysbrydoli, gyda chefndir yn addysg y blynyddoedd cynnar ac yn angerddol dros yr amgylchedd.

Fel Swyddog Eco-Tots Cymru, byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Tîm Addysg a rhanddeiliaid allweddol i ddod â’r rhaglen hon yn fyw. Bydd eich rôl yn cynnwys datblygu adnoddau a chynnwys, dylunio a chyflwyno hyfforddiant i ymarferwyr, cefnogi lleolaidau’r blynyddoedd cynnar i ymuno â’r rhaglen, a goruchwylio’r broses ymgeisio, asesu a dyfarnu.

Noder, mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Sut i wneud cais

Rydym yn chwilio am y person iawn ar gyfer y swydd hon – rhywun fydd yn mwynhau gweithio gyda ni ac yn helpu i gyfrannu at ein llwyddiant parhaus.

Os hoffech gael eich ystyried, llenwch y Ffurflen Mynegi Diddordeb isod. Gallwch wneud cais yn ysgrifenedig neu ar fideo – pa bynnag un sydd orau i chi.

Llenwch y ffurflen erbyn canol dydd 29 Medi 2025.

Bydd yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael gwahoddiad i gyfarfod â ni ar y 16 Hydref. Bydd hyn yn gyfle i ni glywed mwy am eich profiadau a’ch syniadau.

I’ch helpu chi i baratoi, byddwn yn rhannu testunau a themâu y cyfweliad ymlaen llaw. Os nad yw’r dyddiad yn addas, byddwn yn gwneud ein gorau i fod yn hyblyg a threfnu dyddiad arall.

Os nad ydych chi wedi derbyn ymateb gennym ni yn eich gwahodd i fynychu cyfweliad erbyn 17 Hydref, dylech gymryd yn ganiataol eich bod wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn.

Os hoffech sgwrs anffurfiol am y rôl yn Cadwch Gymru’n Daclus, cysylltwch â hr@keepwalestidy.cymru neu ffoniwch 029 2002 5695.