Mae sbwriel yn parhau i fod yn bla mewn cymunedau, yn bygwth bywyd gwyllt ac yn niweidio ein hamgylchedd naturiol gwerthfawr. Mae ffigurau diweddar yn datgelu bod pecynnau bwyd brys wedi eu canfod ar 26.4% o strydoedd a sbwriel diodydd ar 43.6% – arwydd clir bod diwylliant o daflu i ffwrdd yn cael effaith niweidiol ar bob cwr o Gymru. P’un ai eich bod yn mynd i’r arfordir i nofio, yn mwynhau cerdded yng nghefn gwlad, neu’n dal yr haul yn eich parc lleol, mae’r neges yn syml: os ydych chi’n dod ag ef gyda chi, ewch ag ef gartref.
“Mae ein parciau, ein traethau a’n mannau gwyrdd yn ganolog i’r hyn sy’n gwneud Cymru mor arbennig. Mae gennym i gyd ran i’w chwarae yn gofalu amdanynt. “Mae’n syml: os ydych chi’n dod ag ef gyda chi, ewch ag ef gartref. Dewch i ni fwynhau popeth sydd gan Gymru i’w gynnig yr haf hwn, heb ddifetha’r profiad i eraill neu niweidio’r amgylchedd. Dewch i ni greu straeon, nid sbwriel.” Owen DerbyshirePrif Weithreddwr Cadwch Gymru’n Daclus
Owen DerbyshirePrif Weithreddwr Cadwch Gymru’n Daclus
Yn newydd ar gyfer 2025, mae Cadwch Gymru’n Daclus yn uno gyda chrewyr cynnwys lleol ledled Cymru, i helpu i roi’r gair ar led i gynulleidfaoedd newydd ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r ecolegydd a’r crëwr cynnwys Joe Wilkins o Geredigion yn cefnogi’r ymgyrch fel rhan o’i gyfres ‘Sandwich with a View’.
“Fel rhywun sy’n caru Cymru ac yn annog pobl i archwilio ein gwlad hyfryd yn gyfrifol, rwy’n gwybod pa mor hanfodol ydyw ein bod yn cadw’r mannau arbennig hyn yn ddi-sbwriel. Mae natur yng Nghymru o dan bwysau llawer o fygythiadau y tu hwnt i’n rheolaeth, ond mae mynd â’n sbwriel gartref yn un peth syml y gallwn ni i gyd ei wneud i helpu bywyd gwyllt i adfer a ffynnu. Dewch i ni greu straeon, nid sbwriel.” Joe WilkinsCrëwr Cynnwys
Joe WilkinsCrëwr Cynnwys
Sut gallwch chi gymryd rhan
Gall pawb chwarae rhan yn diogelu mannau hardd Cymru yr haf hwn. Dyma sut gallwch chi gymryd rhan:
Wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, nod yr ymgyrch yw ennyn ymdeimlad o falchder a chyfrifoldeb ar y cyd ledled Cymru – gan brofi y gall hyd yn oed newidiadau bach mewn ymddygiad wneud gwahaniaeth mawr i’r mannau rydym yn eu caru a’u rhannu.
17/07/2025
06/06/2025
02/05/2025
22/04/2025
Rydyn ni’n rhoi wyneb newydd ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus ac yn awyddus i glywed eich barn. Dim ond 3–4 munud mae’r arolwg yn ei gymryd, ac fe wnaiff eich adborth wirioneddol wneud gwahaniaeth.