A A A

Ffurfio polisi amgylcheddol: Pwysigrwydd data gwirfoddolwyr

Mae polisi amgylcheddol yn aml yn gymhleth ac yn newid yn gyflym, ond mae newid gwirioneddol yn bosibl pan fydd tystiolaeth gref ar gael. Enghraifft ddiweddar yw’r gwaharddiad ar draws y DU ar fêps untro, a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2025.

O arsylwadau lleol i weithredu cenedlaethol

Dechreuodd y broses ddiwedd 2022, pan amlygodd awdurdodau lleol sbwriel fêps fel problem oedd yn dod i’r amlwg. O 2023, roedd gwirfoddolwyr Cadwch Gymru’n Daclus yn cofnodi niferoedd cynyddol o fêps untro trwy eCyfrif Cymru.

Yn ystod y flwyddyn cyn y gwaharddiad, cafodd fêps untro eu cofnodi ar 42.5% o sesiynau codi sbwriel. Darparodd y data hwn, ynghyd â dadansoddiadau pellach gan ein tîm Polisi, dystiolaeth gadarn i gefnogi’r achos dros newid.

Pam gafodd fêps untro eu gwahardd?

Cafodd y gwaharddiad ei ysgogi gan bryderon amgylcheddol sylweddol:

  • Batris – Mae fêps yn cynnwys batris lithiwm sydd yn rhyddhau cemegau gwenwynig ac yn cyflwyno perygl o dân pan fyddant yn cael eu niweidio neu eu rhoi mewn cysylltiad â gwres.
  • Colli adnoddau – Mae fêps yn cynnwys metelau gwerthfawr sy’n cael eu colli pan fyddant yn cael eu taflu yn hytrach na’u hadfer i gael eu hailddefnyddio.
  • Gwastraff plastig – Mae’r rhan fwyaf o fêps untro wedi eu gwneud o blastig, sydd yn tanseilio’r ymdrechion i leihau plastigau untro a symud tuag at economi gylchol.

Roedd graddfa’r broblem yn sylweddol, gyda’n hamcangyfrifon ni yn awgrymu, mewn blwyddyn yng Nghymru, bod 360,000 o fêps untro wedi eu taflu fel sbwriel a 120,000 pellach wedi eu fflysio i lawr toiledau.

Monitro’r effaith

Tri mis ar ôl y gwaharddiad, mae’n rhy gynnar i asesu ei effeithiolrwydd yn llawn, ond, mae data gwirfoddolwyr yn parhau i roi mewnwelediad hanfodol. Rydym eisoes yn gweld heriau newydd yn dod i’r amlwg, yn cynnwys:

  • Fêps amldro, sydd yn debyg iawn i gynnyrch untro ond yn cynnwys porth gwefru.
  • Podiau ail-lenwi fêps, sydd yn cael eu canfod fwy a mwy fel sbwriel.

I adlewyrchu hyn, rydym wedi diweddaru categorïau eCyfrif Cymru fel bod gwirfoddolwyr bellach yn gallu cofnodi a ydyn nhw wedi canfod:

  • Fêps untro neu amldro
  • Podiau ail-lenwi fêps

Camau nesaf

Byddwn yn ailasesu tystiolaeth 6 a 12 mis ar ôl y gwaharddiad. Mewn egwyddor, dylai’r cam tuag at fêps amldro a phodiau ail-lenwi leihau’r perygl o dân ac atal adnoddau rhag cael eu colli’n ddiangen. Bydd monitro parhaus yn pennu a yw hyn yn wir.

Mae cyfraniadau gwirfoddolwyr yn parhau’n hanfodol, gyda phob data sy’n cael ei gyflwyno yn cryfhau’r sail dystiolaeth ac yn helpu i ffurfio’r polisi amgycheddol sy’n cadw Cymru’n lân, yn ddiogel ac yn gydnerth.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â leq@keepwalestidy.cymru

Erthyglau cysylltiedig

Gwahodd grwpiau cymunedol i ddweud eu dweud!

30/09/2025

Darllen mwy
Cyflwyno ein hymgyrch sbwriel: Creu Straeon, Nid Sbwriel

21/07/2025

Darllen mwy
Dathlu blwyddyn Eco-Sgolion lwyddiannus arall

17/07/2025

Darllen mwy
Enwebiadau Gwobrau Cymru Daclus 2025 ar agor!

06/06/2025

Darllen mwy