Rydym ni’n galw ar grwpiau cymunedol ledled Cymru i gymryd rhan mewn arolwg newydd sydd wedi’i gynllunio i lywio cymorth yn y dyfodol a chryfhau gweithredu ar lawr gwlad.
Rydym ni am gael darlun cliriach o’r heriau a’r anghenion mae grwpiau lleol yn eu hwynebu, fel y gallwn ni ddarparu hyfforddiant, adnoddau, a chyfleoedd mwy effeithiol i rannu dysgu.
Fel rhan o’r fenter, rydym ni hefyd yn awyddus i nodi grwpiau a allai fod yn fodlon cefnogi eraill ar eu taith.
Mae grwpiau cymunedol wrth wraidd ymdrechion i greu Cymru harddach sy'n ddi-sbwriel. Drwy gwblhau'r arolwg byr hwn, gall grwpiau ein helpu i ddylunio'r gefnogaeth gywir er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i ffynnu. Joanna FriedliRheolwr Ardal Cadwch Gymru'n Daclus
Joanna FriedliRheolwr Ardal Cadwch Gymru'n Daclus
Bydd yr adborth a gasglwyd yn llywio rhaglenni hyfforddiant ac adnoddau yn y dyfodol, gan sicrhau bod y cymorth yn cael ei deilwra i’r hyn sydd ei angen fwyaf ar gymunedau.
Anogir grwpiau cymunedol i gymryd ychydig funudau i gwblhau’r arolwg a chwarae rôl wrth lunio dyfodol gweithredu ar lawr gwlad yng Nghymru.
Cwblhau’r arolwg
30/09/2025
21/07/2025
17/07/2025
06/06/2025
Rydyn ni’n rhoi wyneb newydd ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus ac yn awyddus i glywed eich barn. Dim ond 3–4 munud mae’r arolwg yn ei gymryd, ac fe wnaiff eich adborth wirioneddol wneud gwahaniaeth.