A A A

Lansio hyb codi sbwriel yn Grangetown

Mae Pafiliwn Grange yn ymuno â’r nifer gynyddol o hybiau codi sbwriel sydd yn agor ar draws Cymru.

Mae hyb codi sbwriel newydd wedi agor ym Mhafiliwn Grange yn Grangetown, Caerdydd sydd yn galluogi’r cyhoedd, grwpiau cymunedol a busnesau i gael benthyg cyfarpar codi sbwriel i lanhau eu hardal leol.

Mae Pafiliwn Grange yn cynnig yr holl gyfarpar sydd ei angen ar bobl leol i gynnal digwyddiad glanhau diogel a chadw eu cymuned yn edrych yn hardd. Mae hyn yn cynnwys codwyr sbwriel, siacedi llachar, sachau sbwriel a chylchynnau.

I ddathlu lansio’r hyb codi sbwriel, cynhelir digwyddiad glanhau ar ddydd Mercher 2 Chwefror rhwng 15.45yp a 17.00yp. Gwahoddir pobl leol i gymryd rhan a helpu i gadw Grangetown yn daclus.

Mae’r hybiau codi sbwriel wedi cael eu sefydlu gan Cadwch Gymru’n Daclus fel rhan o fenter Caru Cymru. Mae Caru Cymru yn fudiad cynhwysol sydd yn cael ei arwain gan Cadwch Gymru’n Daclus a phartneriaid awdurdodau lleol i ddileu sbwriel a gwastraff.

Rydym yn llawn cyffro i fod yn lansio hyb codi sbwriel ym Mhafiliwn Grange ar ddydd Sadwrn 11 Rhagfyr. Rydym yn annog unigolion, busnesau a grwpiau lleol i wneud defnydd da o’r cyfleusterau newydd hyn i chwarae rhan yn gwella eu hamgylchedd lleol.

Dywedodd Ali Abdi, Rheolwr Hyb Codi Sbwriel Pafiliwn Grange

Mae Caru Cymru wedi cael cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru

I ganfod mwy am hybiau codi sbwriel ar draws Cymru, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus.

Erthyglau cysylltiedig

Gwahodd grwpiau cymunedol i ddweud eu dweud!

30/09/2025

Darllen mwy
Ffurfio polisi amgylcheddol: Pwysigrwydd data gwirfoddolwyr

30/09/2025

Darllen mwy
Cyflwyno ein hymgyrch sbwriel: Creu Straeon, Nid Sbwriel

21/07/2025

Darllen mwy
Dathlu blwyddyn Eco-Sgolion lwyddiannus arall

17/07/2025

Darllen mwy