A A A

Lleisiau ifanc yn arwain y ffordd wrth fynd i’r afael â sbwriel yn Sir Gaerfyrddin

Mae menter newydd sy’n cael ei harwain gan ieuenctid wedi bod yn herio stereoteipiau ac yn gwneud pobl ifanc yn ganolog i’r frwydr yn erbyn sbwriel.

Nod y prosiect, wedi ei gyflwyno mewn partneriaeth â Chyngor Sir Gaerfyrddin, grwpiau ieuenctid lleol, a phartneriaid cymunedol, oedd cael barn pobl ifanc am sbwriel a’u grymuso i greu newid cadarnhaol.

Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi gweithio’n agos gyda phobl ifanc 8-25 oed, yn gwrando ar eu profiadau, y camdybiaethau maen nhw’n dod ar eu traws, a’u syniadau arloesol ar gyfer creu cymunedau glanach.

Fe wnaeth tri grŵp yn Sir Gaerfyrddin chwarae rhan ganolog:

  • Prosiect Ieuenctid Dr Mz, Caerfyrddin
  • Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanymddyfri
  • Ieuenctid Tysul, Llandysul

Mae’r fenter wedi cael ei chefnogi gan Ynni Sir Gâr ac aelodau Bwrdd Ieuenctid Cadwch Gymru’n Daclus, wnaeth roi adborth gwerthfawr yr holl amser. Mae’n rhan o brosiect Caru Cymru Sir Gâr, sydd wedi derbyn £51,781.37 gan lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Dathliad arbennig

Mae lleisiau pobl ifanc yn hanfodol wrth i ni weithio i fynd i’r afael â sbwriel yn Sir Gaerfyrddin, gweddill Cymru a thu hwnt. Mae ymchwil yn tueddu i ddangos mai ni sy’n cyfrannu fwyaf at sbwriel, felly mae datrys yn broblem yn rhywbeth sydd yn dechrau, ond yr un modd ac yn gyfan gwbl, yn gallu gorffen, gyda ni. Os ydych chi eisiau i’r genhedlaeth iau newid ein hymddygiad, mae’n bwysig eich bod chi’n ein cynnwys ni yn y broses. Roeddwn i’n hapus i gynnig fy marn ar y prosiect yn y gobaith y gallwn greu Cymru lanach yn yr hirdymor. Ar ddydd Iau (4 Rhagfyr) daeth bob un o’r tri grŵp ynghyd yng Nghaerfyrddin am ddathliad olaf. Gyda chodwyr sbwriel unigryw, cynhaliodd 50 o bobl ifanc ddigwyddiad glanhau cymunedol, a chydag arweiniad gan y cerflunydd a’r artist lleol Lisa Phillips o Stiwdio Mam trwy LocalMotion, trawsnewidiwyd y gwastraff yn ddarn o gelf trawiadol. Cafwyd trafodaethau ystyrlon yn y digwyddiad hefyd am sbwriel a chynaliadwyedd, gan gyrraedd uchafbwynt trwy rannu syniadau – a rhannu pitsa!

Megan Friedli
Bwrdd Ieuenctid Cadwch Gymru’n Daclus

Trwy wrando ar bobl ifanc a’u cynnwys yn yr ateb, rydym nid yn unig yn mynd i’r afael â sbwriel ond hefyd yn herio stereoteipiau ac yn grymuso’r genhedlaeth nesaf i ymfalchïo yn eu cymunedau. Rwy’n llawn cyffro i weld sut mae’r bobl ifanc hyn yn datblygu’r angerdd y maen nhw’n ei rannu am gadw eu hamgylchedd lleol yn rhydd rhag sbwriel, ac edrychaf ymlaen at eu cefnogi gyda phrosiectau a syniadau yn y dyfodol.

Alex Nicholas
Swyddog Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus ar gyfer Sir Gaerfyrddin

Cymerwch ran

Wedi eich ysbrydoli i weithredu? Mae’n hawdd cymryd rhan yn gofalu am eich ardal leol. Ewch i Hyb Codi Sbwriel i fenthyg offer neu ymunwch â’r cannoedd o grwpiau cymunedol ledled Cymru.

Erthyglau cysylltiedig

4 parc yng Nghymru yn cyrraedd 10 uchaf y DU

20/11/2025

Darllen mwy
Mae Her Hinsawdd Cymru yn dychwelyd ar gyfer 2026!

04/11/2025

Darllen mwy
Gwahodd grwpiau cymunedol i ddweud eu dweud!

30/09/2025

Darllen mwy
Ffurfio polisi amgylcheddol: Pwysigrwydd data gwirfoddolwyr

30/09/2025

Darllen mwy