Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi dychweliad Her Hinsawdd Cymru, her arloesi genedlaethol gyffrous i ysgolion ledled Cymru, wedi’i hysbrydoli gan Wobr Earthshot.
Gwahoddir dysgwyr 5–18 oed i gymryd rhan trwy greu fideos byr, gwreiddiol sy’n arddangos eu syniadau mwyaf dychmygus ac ymarferol i helpu i fynd i’r afael ag un o bum her fyd-eang, neu ‘Earthshots’: Adeiladu Byd Diwastraff, Glanhau Ein Haer, Trwsio Ein Hinsawdd, Adfywio ac Adfer Natur, ac Adfywio Ein Cefnforoedd.
Mudiad cenedlaethol cynyddol
Ar ôl llwyddiant anhygoel cystadleuaeth eleni, mae Her Hinsawdd Cymru 2026 yn parhau i rymuso pobl ifanc i archwilio materion amgylcheddol a rhannu atebion a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol, yn eu hysgolion, eu cymunedau, a thu hwnt.
Wedi’i chyflwyno gan Eco-Sgolion Cymru yn Cadwch Gymru’n Daclus, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Gwobr Earthshot, mae’r gystadleuaeth yn rhoi cyfle unigryw i ddysgwyr gyfuno creadigrwydd, gwaith tîm, ac addysg gynaliadwyedd.
Dathlu arloesedd ac effaith
Bydd y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol ym mhob categori Earthshot yn cael eu gwahodd i seremoni wobrwyo arbennig yn haf 2026, lle bydd eu syniadau’n cael eu dathlu a’u rhannu ag ysgolion ledled Cymru.
Rwyf wrth fy modd y bydd Her Hinsawdd Cymru yn dychwelyd yn 2026. Eleni, cawsom ein syfrdanu gan greadigrwydd a phenderfyniad pobl ifanc ledled Cymru, ac alla i ddim aros i weld sut maen nhw'n adeiladu ar y llwyddiant hwnnw. Mae'r her yn rhoi cyfle i ddysgwyr droi eu syniadau'n weithredu a rhannu eu hatebion ar lwyfan cenedlaethol. Yn Cadwch Gymru'n Daclus, trwy'r rhaglen Eco-Sgolion, rydym yn falch o chwarae rhan gefnogol fach wrth iddynt arwain y ffordd tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy. Owen DerbyshirePrif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus
Owen DerbyshirePrif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus
Sut i gymryd rhan
Rydym yn chwilio am fideos byr, creadigol gan ddysgwyr 5–18 oed.
Croesewir ceisiadau yn Saesneg neu’n Gymraeg, a gall pob ysgol gyflwyno hyd at bum cais.
Dysgwch fwy a chofrestrwch eich diddordeb ar ein gwefan.
Ewch i Her Hinsawdd Cymru
30/09/2025
21/07/2025
17/07/2025