A A A

Menter ailgylchu cwpanau papur Deallusrwydd Artiffisial cynta’r byd yn cael ei lansio yng Nghaerdydd

Gall defnyddwyr yng Nghaerdydd gael 50c am bob cwpan papur maen nhw’n dychwelyd i’r siop mewn ymgyrch newydd yng nghanol y ddinas

Mae menter Deallusrwydd Artiffisial arloesol i fynd i’r afael â gwastraff cwpanau papur yng nghanol Caerdydd yn cael ei lansio heddiw, wrth i bartneriaid Cadwch Gymru’n Daclus ffurfio partneriaeth gyda’r Cynllun Cenedlaethol Ailgylchu Cwpanau a’r ap didoli gwastraff arloesol, Bower.

Bydd y peilot dros dri mis yn galluogi preswylwyr, ymwelwyr â chymudwyr yng Nghaerdydd i ailgylchu eu cwpanau papur mewn canghennau o Caffè Nero, Costa Coffee, Greggs, McDonald’s a Pret a Manger sy’n rhan o’r cynllun am wobr o 50c.

Gall cwsmeriaid sy’n prynu diodydd mewn cwpanau papur o’r manwerthwyr hyn lawrlwytho ap Bower, sganio eu cwpan gyda’r sganiwr Deallusrwydd Artiffisial, a’i ddychwelyd i gangen sy’n rhan o’r cynllun i gael ei ailgylchu’n iawn. Bydd pob cwpan sy’n cael ei ddychwelyd yn ennill 50c trwy’r ap, sydd yn ysgogi gwaredu ac yn sicrhau bod y cwpanau’n cael eu hailgylchu’n iawn.

Mae’r fenter yn gydweithrediad unigryw rhwng brandiau sy’n cystadlu, gan uno yn y frwydr yn erbyn gwastraff tirlenwi. Er bod y defnydd o gwpanau aml-dro yn cynyddu, mae’r defnydd o gwpanau untro yn dal yn her fawr, gyda’r DU yn gwaredu tua 2.5 biliwn o gwpanau papur yn flynyddol – llawer ohonynt yn mynd i safleoedd tirlenwi fel sbwriel am nad ydyn nhw’n cael eu hailgylchu’n iawn.

Nid oes llawer o ddefnyddwyr yn ymwybodol na ellir ailgylchu cwpanau papur gydag ailgylchu arferol, ond bod ailgylchu arbennig ar gyfer cwpanau yn bosibl.  Mae’r rhan fwyaf o gwpanau papur wedi eu gwneud o ffibr o ansawdd uchel, y gellir ei ailgylchu sawl gwaith yn gynnyrch newydd, gan gynnwys deunydd pacio papur ar gyfer brandiau fel Mulberry, Selfridges, a chardiau Hallmark. Mae’r leinin plastig yn cael ei wahanu a’i ailddefyddio yng Nghymru ar gyfer eitemau fel dodrefn gardd a chlymau ceblau, tra bod y ffibrau yn cael eu prosesu mewn melin bapur arbenigol yn ardal y Llynnoedd.

Yn Cadwch Gymru’n Daclus, rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd arloesol o fynd i’r afael â gwastraff a diogelu ein hamgylchedd. Mae’r cynllun hwn yn gyfle rhagorol i Gaerdydd arwain y ffordd yn ailgylchu cwpanau, gan ddangos y gall gweithredoedd bach – fel dychwelyd cwpan wedi ei ddefnyddio – arwain at effaith fawr. Trwy gydweithio ar draws diwydiannau ac ymgysylltu â’r cyhoedd, gallwn leihau gwastraff, cadw deunyddiau gwerthfawr mewn cylchrediad, a symud tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy i Gymru.

Owen Derbyshire
Prif Swyddog Gweithredol Cadwch Gymru’n Daclus

Mae’r Cynllun Cenedlaethol Ailgylchu Cwpanau, a sefydlwyd yn 2018, yn ymdrech ar draws y diwydiant, sydd wedi ei gynllunio i gynyddu ailgylchu cwpanau ledled y DU trwy ariannu mentrau ar gyfer casglu gwastraff a’i wneud yn haws i fusnesau a defnyddwyr ailgylchu’n gyfrifol.

Rydym wrth ein bodd yn cefnogi’r fenter arloesol hon, sydd yn gwneud ailgylchu cwpanau yn haws ac yn fwy gwerth chweil i breswylwyr Caerdydd. Trwy ariannu’r prosiect hwn, rydym yn helpu i sbarduno newid gwirioneddol yn arferion ailgylchu defnyddwyr tra’n sicrhau bod deunyddiau gwerthfawr cwpanau’n cael eu cadw mewn cylchrediad. Mae cydweithredu yn allweddol i fynd i’r afael â gwastraff, ac mae’r peilot hwn yn dangos sut y gall brandiau, technoleg a chymunedau ddod ynghyd i greu atebion ymarferol sy’n ysgogi effaith amgylcheddol wirioneddol. Rydym yn llawn cyffro am y potensial i ehangu’r fenter hon, gan ei wneud yn haws fyth i bobl ledled y DU ailgylchu eu cwpanau tra’n gael eu gwobrwyo trwy Bower.

Hannah Osman
Rheolwr Cenedlaethol Ailgylchu Cwpanau yn Valpak

Mae Bower, ap didoli gwastraff penigamp, yn gweithio gyda mwy na 550 o frandiau ac mae ganddo 700,000 o ddefnyddwyr yn fyd-eang. Bydd ei dechnoleg yn helpu i olrhain cyfranogiad yn y cynllun a gwobrwyo preswylwyr Caerdydd am helpu i greu dinas lanach, wyrddach. Gellir lawrlwytho’r ap trwy Google Play a’r App Store.

Rydym yn llawn cyffro i gefnogi menter arloesol Caerdydd, sydd yn cynnwys cynllun ailgylchu cwpanau papur cyntaf y byd wedi ei bweru gan Ddeallusrwydd Artiffisial. Diolch i dechnoleg canfod gwrthrychau Gwybodaeth Artiffisial, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â Google, gall defnyddywr nodi ac ailgylchu eu cwpanau papur ar unwaith a chael eu gwobrwyo am eu gweithredoedd da. Mae’r cydweithrediad hwn yn dangos sut gall technoleg, brandiau a chymunedau ddod ynghyd i fynd i’r afael â gwastraff a sbarduno newid amgylcheddol gwirioneddol.

Berfin Mert
Cyd-sylfeinydd Bower

Mae’r peilot yn cael ei gynnal o 22 Ebrill am dri mis, gan roi cyfle i breswylwyr ac ymwelwyr Caerdydd gymryd rhan mewn menter ailgylchu arloesol. Lawrlwythwch ap Bower, sganiwch, dychwelwch, a chael eich gwobrwyo tra’n helpu i Gadw Cymru’n Daclus.

Gweler y rhestr lawn o safleoedd sy’n cymryd rhan:

  • Caffe Nero, Canolfan Siopa Dewi Sant
  • Caffe Nero, Heol y Drindod
  • Costa Coffee, Yr Ais
  • Costa Coffee, Canolfan Siopa Dewi Sant
  • Costa Coffee, Heol y Frenhines
  • Costa Coffee, Plas y Parc
  • Costa Coffee, Gorsaf Drenau Caerdydd Canolog
  • Greggs, Sgwâr Canolog
  • Greggs, Yr Ais
  • Greggs, Stryd Caroline
  • Greggs, Canolfan Siopa Dewi Sant
  • Greggs, St Marys St
  • Greggs, 34 Queen St
  • Greggs, 140 Queen St
  • Greggs, Plas y Parc
  • Greggs, Prifysgol Caerdydd Plas y Parc
  • McDonald’s, Heol Eglwys Fair
  • McDonald’s, Heol y Frenhines
  • Pret a Manger, Sgwâr Canolog
  • Pret a Manger, Canolfan Siopa Dewi Sant

Erthyglau cysylltiedig

Gwahodd grwpiau cymunedol i ddweud eu dweud!

30/09/2025

Darllen mwy
Ffurfio polisi amgylcheddol: Pwysigrwydd data gwirfoddolwyr

30/09/2025

Darllen mwy
Cyflwyno ein hymgyrch sbwriel: Creu Straeon, Nid Sbwriel

21/07/2025

Darllen mwy
Dathlu blwyddyn Eco-Sgolion lwyddiannus arall

17/07/2025

Darllen mwy