Archwiliwch effaith amser real pobl sy’n gofalu am amgylchedd Cymru.
Mae ein map Effaith Gymunedol yn amlygu ymdrechion anhygoel unigolion, grwpiau a sefydliadau angerddol, sy’n cydweithio i ddiogelu a gwella’r mannau yr ydym yn eu caru.
Mae’n ffordd o weld y darlun cyflawn a dathlu grym gwirfoddoli!
Mae’r map a’r ffigurau isod yn cynnwys gweithgareddau a gofnodwyd gan bawb ers 2019.
Ar y dechrau, bydd yn dangos cipolwg o weithgareddau sydd wedi digwydd ledled Cymru ers 1 Ionawr, ond mae’n hawdd addasu’r hyn a welwch.
Dyma eich canllaw i archwilio’r map:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth pellach arnoch, cysylltwch â’n Tîm Data yn data@keepwalestidy.cymru
Os hoffech ddileu eich data o’r map, anfonwch e-bost at y tîm yn data@keepwalestidy.cymru. Chi sy’n rheoli’r sefyllfa bob amser.
Yn Cadwch Gymru’n Daclus rydym yn falch o weithredu’n ddwyieithog ac wedi ymrwymo i ddatblygu ein defnydd o’r Gymraeg. Mae data ar y Map Effaith Gymunedol yn ymddangos yn yr iaith y cafodd ei gyflwyno.
Yn anffodus, gan ein bod yn defnyddio llwyfan allanol i arddangos y data hwn, nid oes gennym y gallu i ddarparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog. Byddwn yn parhau i chwilio am ffyrdd o wella hyn.
Rydyn ni’n rhoi wyneb newydd ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus ac yn awyddus i glywed eich barn. Dim ond 3–4 munud mae’r arolwg yn ei gymryd, ac fe wnaiff eich adborth wirioneddol wneud gwahaniaeth.