A A A

Dod yn feirniad!

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm o feirniaid Gwobr y Faner Werdd Cymru.​

Byddwch yn rhan o grŵp o 100 o wirfoddolwyr wedi eu gwasgaru ar draws Cymru, sy’n gyfrifol am gynnal uniondeb y cynllun trwy gynnal cysondeb beirniadu ac eirioli dros fannau gwyrdd o ansawdd uchel i bawb.

Os ydych yn mwynhau ymweld â mannau gwyrdd, eisiau rhannu eich arbenigedd gyda rheolwyr mannau gwyrdd eraill a dysgu oddi wrthynt, ac eisiau bod yn rhan o dîm ymroddedig o wirfoddolwyr sydd yn gweithio i greu a chynnal Cymru hardd, gallai hwn fod yn gyfle perffaith i chi.

Gwybodaeth allweddol

Mae hon yn swydd wirfoddol gyda chostau teithio’n cael eu talu.

Ymrwymiad amser:

  • Blwyddyn 1
    • Cwrs hyfforddi: cymysgedd o sesiynau ar-lein ac mewn person (tua 2 ddiwrnod yn dechrau ym mis Ionawr 2026)
    • Beirniadu dau safle yn y flwyddyn gyntaf (4 diwrnod Ebrill-Mai 2026)
  • Parhaus
    • Isafswm o un safle y flwyddyn, dau yn ddelfrydol (2-4 diwrnod y flwyddyn yn ystod Ebrill a Mai)

Crynodeb o’r dyletswyddau

Mae gan Wobr Baner Werdd Cymru ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn annog pawb gyda’r sgiliau cywir i gymryd rhan.

  • Asesu a beirniadu safleoedd neilltuol o fewn cyfnodau amser penodol ​
  • Cysylltu â chyd-feirniaid ac ymgeiswyr
  • Cydymffurfio â gweithdrefnau a pholisïau’r Bartneriaeth bob amser

Sgiliau a phrofiad

Nid oes unrhyw ofynion cymhwyster penodol ar gyfer y swydd hon ond byddai angen profiad perthnasol arnoch naill ai mewn cyflogaeth â thâl neu mewn rhinwedd gwirfoddol, fel y nodir isod:

Sgiliau

  • *Gallu dangos ystod dda o wybodaeth am y sector parciau a mannau gwyrdd
  • Profiad o ysgrifennu cynlluniau rheoli parciau neu fannau gwyrdd neu weithio gyda nhw ​
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • *Sgiliau dadansoddi rhagorol ​
  • *Sgiliau rhagorol yn ysgrifennu adroddiadau ​
  • *Sgiliau rhyngbersonol rhagorol
  • *Llythrennedd cyfrifiadurol ​
  • Dealltwriaeth ragorol o drefnu a gweithredu grŵp ​

Cyfle cyfartal

  • Gallu dangos ymwybyddiaeth gadarn o faterion cyfle cyfartal

Agwedd ac ysgogiad

  • Dull proffesiynol cyson ​
  • Uniondeb a gwrthrychedd
  • Gallu gweithio o dan bwysau i derfynau amser ​
  • Gallu cyfiawnhau penderfyniadau

Arall​

  • Yn barod i deithio ​

*meini prawf sy’n cael eu hystyried bwysicaf i’r rôl hon ​

Sut i wneud cais

Llenwch y ffurflen isod i wneud cais.

Dyddiad cau: 14 Rhagfyr 2025