Rydych wedi gwneud y gwaith caled — mae nawr yn amser i sôn amdano!
Mae ennill Gwobr y Faner Werdd yn gyflawniad rhagorol, ac rydym eisiau eich helpu i wneud y gorau ohoni. Yn y weminar hon, byddwch yn dysgu ffyrdd syml, effeithiol o hyrwyddo eich gwobr a’ch safle trwy’r cyfryngau a sianeli cymdeithasol lleol.
Byddwn yn cynnwys sut i ddefnyddio’r templed datganiad i’r wasg a’r pecyn cymorth marchnata y byddwn yn eu darparu, ynghyd ag awgrymiadau defnyddiol ar gyfer datblygu eich presenoldeb ar-lein ac ymgysylltu â’ch cymuned. P’un ai eich bod yn newydd i CC neu eisiau roi hwb i’ch sgiliau, bydd y sesiwn hon yn rhoi’r hyder a’r offer sydd eu hangen arnoch.
Cynhelir y sesiwn ar-lein, a gyflwynir yn Saesneg, am 17:00–18:00 ar ddydd Mawrth 1 Gorffennaf 2025.
Llenwch y ffurflen gofrestru isod i sicrhau lle.
Byddwch wedyn yn derbyn e-bost yn cadarnhau gyda dolen i’r weminar. Os na fyddwch yn ei weld, edrychwch yn eich ffolderi sothach neu sbam. Os byddwch yn cael problemau, cysylltwch â’r tîm yn greenflagwales@keepwalestidy.cymru.
Wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae hon yn rhan o gyfres o weminarau am ddim wedi eu cynllunio i gefnogi grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr yng Nghymru.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!