A A A

Tacluso Caerdydd 2025

26/09/2025 - 12/10/2025

Caerdydd

Mae Tacluso Caredydd yn ôl!

Am bythefnos yr hydref hwn, cynhelir Tacluso Caerdydd unwaith eto ledled y brifddinas, o dan arweiniad Cadwch Gymru’n Daclus, Carwch Eich Cartref a Grŵp Afonydd Caerdydd. 

O 26 Medi i 12 Hydref 2025, gallwch ymuno â digwyddiadau a gynhelir gan rai o’n Hybiau Codi Sbwriel, digwyddiadau glanhau Afon Taf gan ein sefydliadau partner, a hyd yn oed cwrdd â rhai o’n Harwyr Sbwriel i weld sut mae gwneud pethau. 

Ein nod yw sicrhau bod digwyddiad ym mhob ward, o Laneirwg i’r Sblot, Llandaf i Lanisien, gyda’r nod o ddod â phobl at ei gilydd yn enw Caerdydd fwy taclus. 

Mae croeso i bawb ymuno, p’un ai’n grwpiau cymunedol, Hybiau Codi Sbwriel, unigolion, busnesau, ysgolion neu unrhyw un arall sydd â diddordeb yn cymryd rhan. 

Dod o hyd i’ch digwyddiad agosaf

I ganfod ac ymuno â digwyddiad yn lleol i chi, defnyddiwch y map isod sydd yn dangos lleoliadau digwyddiadau a mwy o fanylion. 

Mae’r fenter hon yn cael ei hariannu gan Gronfa Gwydnwch Caerdydd.

Cynnal eich digwyddiad eich hun?

Os oes gennych ddiddordeb yn cynnal eich digwyddiad eich hun fel rhan o Tacluso Caerdydd, cysylltwch â Swyddog Prosiect Caerdydd, Gareth Davies, yn gareth.davies@keepwalestidy.cymru gyda dyddiad, amser a man cyfarfod eich digwyddiad.