Byddwch yn rhan o’r ateb
Rydym eisiau datblygu rhwydwaith o fusnesau ar hyd a lled Cymru sydd wedi ymrwymo i fudiad Caru Cymru a dathlu’r camau cadarnhaol y maent yn eu cymryd i ddileu sbwriel a gwastraff.
Rydym yn annog busnesau a sefydliadau i addo ymrwymo i’r pedwar nod: Lleihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu ac Atgyweirio.
Rhowch wybod i ni pa gamau yr ydych yn eu cymryd trwy lenwi’r ffurflen addewid syml isod. Byddwn wedyn yn darparu deunyddiau hyrwyddo i’ch helpu i roi cyhoeddusrwydd i’ch cyfranogiad gyda Cadwch Gymru’n Daclus ac i ysbrydoli eraill i ymuno â mudiad Caru Cymru.