A A A

Trefnwch gasgliad Prosiect Ailwampio gyda Cadwch Gymru’n Daclus

O fis Ebrill 2026, bydd angen i bob gweithle yng Nghymru – yn cynnwys busnesau, sefydliadau’r sector cyhoeddus, elusennau ac ysgolion – wahanu deunyddiau ailgylchu, yn cynnwys cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE), a sicrhau eu bod yn cael eu casglu ar gyfer ailgylchu. Mae’r newidiadau hyn wedi cael eu cynllunio i leihau gwastraff, atal llygredd a chadw deunyddiau gwerthfawr yn weithredol am fwy o amser.

Ni all eitemau trydanol fel gliniaduron, bysellfyrddau, peiriannau argraffu, ffonau a cheblau gael eu trin fel gwastraff cyffredinol bellach. Mae’n rhaid i sefydliadau gymryd cyfrifoldeb dros storio, trin a gwaredu sWEEE yn gywir.

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn cynnig datrysiadau ailgylchu trydanol effeithiol, sy’n eich galluogi i roi i ni er mwyn cefnogi ein gwaith hanfodol ar yr un pryd.

Gwyliwch ein fideo byr i weld sut mae’r cynllun yn gweithio yn ymarferol yma.

Datrysiad syml: trefnu casgliad Prosiect Ailwampio

Yn Cadwch Gymru’n Daclus, gallwn helpu i’w wneud yn hawdd i sefydliadau fodloni’r gofynion newydd hyn trwy gynnal amnest nwyddau trydanol ar eich safle.

Mae ein cynllun ailgylchu trydanol – wedi ei gyflwyno mewn partneriaeth ag A&LH Environmental Ltd – yn cael ei gydnabod fel enghraifft o arfer da gan Climate Action Wales, menter Llywodraeth Cymru.

Mae Prosiect Ailwampio yn rhoi cyfle i’ch sefydliad a’i staff i:

  • Glirio cyfarpar TG a thrydanol sydd yn hen neu’n ddiangen
  • Ailgylchu WEEE yn gyfreithlon ac yn gynaliadwy
  • Sicrhau bod yr holl ddata’n cael ei ddinistrio’n ddiogel
  • Cefnogi ailddefnyddio a’r economi gylchol
  • Codi arian ar gyfer gwaith amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus ledled Cymru

Beth sy’n digwydd i’ch eitemau trydanol?

Mae’r holl eitemau’n cael eu casglu gan ein partner ailgylchu A&LH Environmental Ltd ac yna’n mynd i’w cyfleuster prosesu yn y Barri, De Cymru.

Bydd pob eitem yn cael ei hasesu â llaw i bennu a ellir ei hailddefnyddio, ei huwchraddio neu ei hailgylchu:

  • Lle y bo’n bosibl, bydd cyfarpar yn cael ei uwchraddio a’i ailddefnyddio
  • Bydd yr holl ddata’n cael ei ddileu’n ddiogel cyn ei ailddefnyddio
  • Bydd eitemau sydd yn methu cael eu hailddefnyddio yn cael eu torri i lawr i gael eu hailgylchu

Mae’r dull hwn yn cynyddu’r buddion amgylcheddol ac yn lleihau faint o wastraff trydanol sy’n cael ei anfon i gael ei waredu.

Costau a chasgliadau

  • Mae casgliadau am ddim ar gael os oes gennych fwy na 30 o eitemau a dderbynnir
  • Os oes gennych lai na 30 o eitemau a dderbynnir, codir tâl casglu o £50
  • Gall eitemau sydd ddim yn cael eu derbyn eu casglu, ond bydd taliadau gwaredu yn berthnasol

Mae amnest am ddim ar gael ar hyn o bryd ledled De Cymru. Gallai casgliadau mewn mannau eraill o Gymru fod yn bosibl yn dibynnu ar y lleoliad a nifer yr eitemau.

Adrodd, ardystio a buddion CSR

Ar ôl eich amnest, byddwch yn derbyn:

  • Dadansoddiad llawn o’r eitemau yn ôl math, pwysau a chanlyniad ailddefnyddio/ailgylchu
  • Tystysgrifau ailddefnyddio, ailgylchu a dinistrio data
  • Dogfennau dyletswydd gofal WEEE perthnasol
  • Ardystiad dewisol yn dangos yr arian a godwyd i Cadwch Gymru’n Daclus – delfrydol ar gyfer CSR ac adrodd ar gynaliadwyedd

Am fwy o wybodaeth am Brosiect Ailwampio, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin yma

Barod i drefnu eich casgliad Prosiect Ailwampio?

I sefydlu amnest e-bostiwch: recycling@keepwalestidy.cymru

Byddwn yn anfon popeth sydd ei angen arnoch i ddechrau arni ac yn trefnu dyddiad casglu, fel arfer o fewn pythefnos.

Drwy drefnu casgliad Prosiect Ailwampio, byddwch yn helpu eich sefydliad i baratoi ar gyfer y cyfreithiau ailgylchu gweithleoedd newydd, ac yn diogelu eich data yn ddiogel, tra yn chwarae eich rhan i gadw Cymru’n daclus.

Erthyglau cysylltiedig

Edrych yn fanylach ar sbwriel ar ochr y ffordd

26/02/2026

Darllen mwy
Sbwriel wedi ei ganfod ar 99% o brif ffyrdd yng Nghymru

16/02/2026

Darllen mwy
Cymru Lanach o’n blaenau: Cynllun Dychwelyd Ernes i gael i lansio

13/02/2026

Darllen mwy
Pwysigrwydd rhoi baw ci mewn bag ac yn y bin

16/12/2025

Darllen mwy