Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Cadwch y Fenni’n Daclus wedi derbyn y Wobr Cyflawniad Eithriadol yng Ngwobrau Cymru Daclus eleni. Derbyniodd y grŵp hefyd y Wobr Cymunedau Glanach, wedi ei noddi gan Helping Hand Environmental, i gydnabod eu hymroddiad eithriadol i gadw eu tref a’u hardaloedd cyfagos yn lân ac yn ddiogel.
Ers ail-lansio yn 2019, mae Cadwch y Fenni’n Daclus wedi mynd o nerth i nerth. Gyda mwy na 60 o aelodau gweithredol yn casglu bron 90 bag o sbwriel bob mis, mae gwirfoddolwyr y grŵp yn olygfa gyfarwydd sy’n cael ei chroesawu ar draws y dref. O’r strydoedd a’r parciau i’r afonydd a’r lonydd cefn, mae ymdrechion Cadwch Gymru’n Daclus yn helpu i fynd i’r afael â mannau lle mae llawer o sbwriel, yn cefnogi Cymru yn ei Blodau, ac yn gwella’r amgylchedd lleol i bawb ei fwynhau.
Y tu hwnt i effaith weledol eu gweithgareddau glanhau, mae gwaith Cadwch y Fenni’n Daclus yn meithrin balchder, cysylltiad cymunedol ac ymwybyddiaeth amgylcheddol. Trwy ffurfio partneriaeth gyda chynghorau lleol, ysgolion a grwpiau cymunedol, maent wedi datblygu rhwydwaith cryf o wirfoddolwyr sy’n rhannu ymrwymiad i wneud y Fenni’n lle glanach a harddach i fyw.
Ar ran Helping Hand Environmental, hoffem longyfarch Cadwch y Fenni’n Daclus o waelod calon am ennill y Wobr Cymunedau Glanach. Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth haeddiannol o ymrwymiad, egni ac ysbryd cymunedol rhagorol y grŵp. O fynd i’r afael â mannau lle mae llawer o sbwriel a diogelu’r amgylchedd naturiol, i ymgysylltu â phobl ifanc, cefnogi digwyddiadau lleol, a gweithio law yn llaw gyda chynghorau a phartneriaid cymunedol, mae Cadwch y Fenni’n Daclus wedi cael effaith barhaol ar y Fenni a’r ardaloedd cyfagos. Stacey LoveringRheolwr Gwerthu’r DU i Helping Hand
Stacey LoveringRheolwr Gwerthu’r DU i Helping Hand
Mae Cadwch y Fenni’n Daclus yn enghraifft wych o’r hyn sy’n gallu cael ei gyflawni pan fydd cymuned yn dod ynghyd i ofalu am ei hamgychedd. Mae eu hegni, eu hymrwymiad a’u cydweithredu’n eu gwneud yn enillwyr cwbl haeddiannol o’r Wobr Cymunedau Glanach a’r Wobr Cyflawniad Eithriadol. Owen DerbyshirePrif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Owen DerbyshirePrif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Fel diolch ychwanegol am eu hymdrechion, cyflwynodd Helping Hand Environmental droli codi sbwriel newydd sbon i’r grŵp ar ôl y digwyddiad, sydd yn rhodd ymarferol i’w helpu i barhau â’u gwaith gwych yn cadw’r Fenni yn daclus.
Cawsom ein synnu a’n rhyfeddu ein bod wedi ennill y Wobr Cymunedau Glanach a’r Wobr Cyflawniad Eithriadol yng Ngwobrau Cymru Daclus eleni. Byddwn yn gwneud defnydd da o’n taleb arddio a’r troli newydd i wella’r Fenni a chymunedau cyfagos. Kathy HagueGwirfoddolwr i Cadwch y Fenni’n Daclus
Kathy HagueGwirfoddolwr i Cadwch y Fenni’n Daclus
Mae Gwobrau Cymru Daclus yn dathlu ymroddiad gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol ledled y wlad sydd yn mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau i wella’r mannau lle maent yn byw. I ddarllen mwy am enillwyr yr holl gategorïau, cliciwch yma.
07/11/2025
03/10/2025
15/07/2025
15/05/2025