A A A

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Arfordir Cymru 2025!

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gyfarwydd â Gwobr y Faner Las. Dyma un o wobrau gwirfoddol mwyaf cydnabyddedig y byd, sydd yn arwydd o draeth neu farina wedi ei reoli’n dda gydag ansawdd dŵr a chyfleusterau rhagorol.   

Ond oeddech chi’n gwybod y gall traethau yng Nghymru ac Iwerddon hefyd gael Gwobr Arfordir Gwyrdd? Mae’r traethau hyn yn ‘drysorau cudd’ ar hyd arfordir Cymru, gyda harddwch naturiol, ansawdd dŵr rhagorol a safon uchel o addysg amgylcheddol.  

A heddiw, wrth i Cadwch Gymru’n Daclus gyhoeddi Gwobrau Arfordir Cymru 2025, mae 13 o draethau wedi cael statws Gwobr Arfordir Gwyrdd.  Maen nhw i gyd wedi cadw’r wobr o’r llynedd ac mae llawer wedi cael yr anrhydedd ers 10 mlynedd neu fwy.  

Maen nhw i gyd yn fannau rhagorol i fwynhau golygfeydd trawiadol, treftadaeth ac amrywiaeth arfordirol cyfoethog.   

Sir Benfro sydd â’r nifer fwyaf o draethau Gwobr Arfordir Gwyrdd yng Nghymru, gyda saith – Abereiddy, Freshwater East, Maenorbŷr, Penalun, Caerfai, Druidsone, a West Angle Bay – i gyd yn cadw eu statws.  

Mae Ceredigion yn dilyn gyda phedwar traeth yn cyrraedd safonau uchel y wobr – Cilborth, Llanrhystud, Mwnt a Penbryn. Yn Abertawe, mae Bae Bracelet yn cadw’r wobr, fel Traeth Llydan yn Rhoscolyn, Ynys Môn.  

Mae Gwobrau Arfordir Cymru wedi cael eu rheoli gan Cadwch Gymru’n Daclus ers dros 20 mlynedd, yn chwarae rôl hanfodol yn diogelu ein hamgylchedd morol gwerthfawr ac yn cael eu cydnabod ar draws y byd fel symbol o ansawdd. Mae’r Gwobrau yn arwydd bod traeth neu farina yn bodloni ac yn cynnal y safonau amgylcheddol uchaf ac yn cyrraedd targedau ansawdd dŵr llym, yn ogystal â sicrhau bod safon uchel o wybodaeth, addysg amgylcheddol, diogelwch a rheolaeth safle yn cael eu darparu.  

Yn ogystal â’r 13 safle sydd wedi derbyn Gwobr Arfordir Gwyrdd, derbyniodd 21 o draethau Cymru statws Baner Las ar gyfer 2025, sydd yn cydnabod ansawdd dŵr, cyfleusterau a darpariaethau diogelwch rhagorol, sydd yn golygu diwrnod allan diogel a llawn hwyl ar lan y môr.   

Cyflawnodd 15 traeth ychwanegol y Wobr Glan Môr. Mae hwn yn wobr ar gyfer traethau yn y DU yn unig, sydd ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gyda’r faner nodedig sydd yn felyn a glas yn arwydd o ddarn arfordirol glân, deniadol sy’n cael ei reoli’n dda. 

Gwobrau Arfordir Gwyrdd yn dathlu arfordir hardd ac amrywiol Cymru ac yn dystiolaeth o ymdrech sylweddol staff a gwirfoddolwyr mewn safleoedd ledled Cymru sydd yn gweithio’n galed i ddiogelu a gwarchod ein tirwedd naturiol tra’n wynebu amgylchiadau cynyddol heriol. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gyfarwydd â Gwobrau’r Faner Las a Glan Môr – ond mae yr un mor bwysig ein bod yn cydnabod y traethau gwyllt, naturiol sydd i’w gweld ar hyd cymaint o arfordir Cymru.  Mae’r Wobr Arfordir Gwyrdd yn arwydd o’r safonau ansawdd dŵr, addysg amgylcheddol, a rheolaeth safle uchaf. Dyma’r arfordiroedd helaeth sy’n diffinio Cymru ar y llwyfan byd-eang – ac mae’n iawn ein bod yn dathlu’r mannau anhygoel hyn.

Owen Derbyshire
Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

Mae gan Gymru rai o draethau ac ansawdd dŵr gorau Ewrop, ac mae’r gydnabyddaieth fyd-eang o’n harfordir yn adlewyrchiad gwirioneddol o ymroddiad a gwaith caled cymaint o bobl. Heddiw rydym yn dathlu cyhoeddiad enillwyr Gwobrau Arfordir Cymru 2025. Gyda 21 o wobrau y Faner Las, 13 o Wobrau Arfordir Gwyrdd, a 15 o Wobrau Glan Môr, rwy’n canmol yr ymroddiad i warchod ein hamgylcheddau arfordirol dilychwin. Wrth i ni ddathlu’r cyflawniad hwn, dewch i ni hefyd wrando ar yr alwad i ddiogelu a gwarchod ein trysorau arfordirol. Dewch i ni sicrhau nad ydym yn gadael unrhyw beth ond olion traed, gan alluogi’r mannau trawiadol hyn gael eu mwynhau am genedlaethau lawer i ddod.

Huw Irranca-Davies
Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Gwobrau Arfordir Cymru

Mae map o safleoedd Baner Las Cymru yma

Gwobrau Arfordir Cymru 2025

Erthyglau cysylltiedig

Dathlu Enillwyr Gwobrau Cymru Daclus 2025

03/10/2025

Darllen mwy
Cymru unwaith eto yn chwifio mwy o Faneri Gwyrdd Cymunedol nag unrhyw wlad arall yn y byd

15/07/2025

Darllen mwy
Parciau Cymru’n cael eu cydnabod fel y ‘gorau o’r goreuon’

14/11/2024

Darllen mwy
Dathlu enillwyr Gwobrau Cymru Daclus 2024

17/09/2024

Darllen mwy