Mae Cymru wedi torri ei record ei hun am nifer y Baneri Gwyrdd sy’n chwifio mewn mannau gwyrdd heddiw, yn dilyn cyhoeddiad Cadwch Gymru’n Daclus o fannau sydd wedi cael Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd ar gyfer 2025/26.
Mae’r 315 o safleoedd yn cynnwys parciau, campysau prifysgol, coetir cymunedol, mynwentydd, rhandiroedd ac ystadau tai.
Nod Gwobr y Faner Werdd, sy’n cael ei chyflwyno gan Cadwch Gymru’n Daclus, yw cysylltu pobl â’r parciau a’r mannau gwyrdd gorau. Mae’r gwobrau yn meincnodi parciau a mannau gwyrdd, fel bod ymwelwyr yn gwybod, os oes Baner Werdd, eu bod yn ymweld â lle rhagorol gyda’r safonau uchaf.
Mae’r safleoedd sydd newydd ennill Gwobr y Faner Werdd ar gyfer 2025/26 yn cynnwys Llyn Llandegfedd yn Sir Fynwy, Ysbyty Bronllys ym Mhowys, Tir Chwaraeon a Hamdden Parc Tredegar yng Nghasnewydd, a Chaeau Llandaf yng Nghaerdydd.
Mae cyfanswm o 223 o safleoedd Cymunedol yn nodi’r nifer uchaf erioed unwaith eto i Gymru, sydd am yr ail flwyddyn yn olynol, â mwy o Wobrau Cymunedol y Faner Werdd nag unrhyw wlad arall sy’n cyflwyno cynllun y Faner Werdd yn y byd.
Derbyniodd 35 o safleoedd cymunedol yng Nghymru Wobr Gymunedol y Faner Werdd am y tro cyntaf, sydd yn gam sylweddol ymlaen o ran argaeledd mannau gwyrdd o ansawdd da ar draws y wlad. Mae hyn yn cynnwys gardd gyntaf Sefydliad y Merched yng Nghymru yn Llanafan, Ceredigion, a’r ardd gorsaf radio gyntaf yn BGfm ym Mlaenau Gwent.
Rwy’n falch iawn fod Cymru’n parhau i arwain y byd o ran safleoedd gwobr gymunedol y faner werdd. Mae ein mannau gwyrdd lleol yn chwarae rôl hanfodol yn ein cysylltu â natur, cefnogi bioamrywiaeth a darparu cyfleoedd ar gyfer hamdden iach, ac mae’n arbennig o galonogol i weld pobl nid yn unig yn defnyddio’r mannau hyn ond hefyd yn helpu i’w cynnal a’u cadw a’u gwella. Mae’r safonau sydd eu hangen i gyflawni statws y Faner Werdd yn eithriadol o uchel, felly rwyf wrth fy modd i weld cymaint o safleoedd a sefydliadau amrywiol yn cael y gydnabyddiaeth flaenllaw hon a hoffwn longyfarch pawb sydd yn gysylltiedig am ddarparu cyfleusterau rhagorol sydd o fudd i gymunedau lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Huw Irranca-DaviesDirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd
Huw Irranca-DaviesDirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd
Rydym wrth ein bodd i weld 315 o fannau gwyrdd ledled Cymru yn cael statws y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd eleni – sydd yn dyst i waith caled ac ymroddiad y rhai sy’n gofalu am y lleoedd arbennig hyn. Rydym yn arbennig o falch fod Cymru wedi torri’r record am enillwyr y wobr gymunedol am yr ail flwyddyn yn olynol, gyda 223 o safleoedd yn cael eu cydnabod yn 2025. Mae’r cyflawniad hwn yn pwysleisio rôl hanfodol y mannau hyn yn cefnogi iechyd a lles cymunedau ledled Cymru. Owen DerbyshirePrif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Owen DerbyshirePrif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Mae rhestr lawn o’r holl fannau penigamp y gellir ei lawrlwytho isod. Neu ewch i’n map i chwilio am eich parc neu fan gwyrdd y Faner Werdd yn lleol.
Ewch i’r map
I glywed y newyddion diweddaraf, dilynwch @GreenFlagWales ar y cyfryngau cymdeithasol #BanerWerddCymru
Am gymorth cyfathrebu, cysylltwch â’r tim ar comms@keepwalestidy.cymru
03/10/2025
15/05/2025
14/11/2024
17/09/2024
Rydyn ni’n rhoi wyneb newydd ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus ac yn awyddus i glywed eich barn. Dim ond 3–4 munud mae’r arolwg yn ei gymryd, ac fe wnaiff eich adborth wirioneddol wneud gwahaniaeth.