Ers 1990, mae Gwobrau Cymru Daclus wedi rhoi cyfle i Cadwch Gymru’n Daclus dynnu sylw at arwyr amgylcheddol ar draws y wlad.
Dathlodd seremoni wobrwyo 2025, a noddwyd gan Dai Wales and West, grwpiau ac unigolion ledled Cymru mewn seremoni wobrwyo flaenllaw a gynhaliwyd yn Llandudno ar ddydd Iau 2 Hydref, gyda Dafydd Wyn o S4C yn cyflwyno.
Enillwyr Gwobrau Cymru Daclus 2025 yw:
Tîm Tirlunio ac Eco-adeiladu, Coleg Gŵyr Abertawe Gwobr Natur yn y Gymuned wedi ei noddi gan Drafnidiaeth Cymru
Cadwch Y Fenni’n Daclus, Sir Fynwy Gwobr Cymunedau wedi ei noddi gan Helping Hand Environmental
Ysgol Gynradd Gymunedol Plascrug, Ceredigion Gwobr Uno dros Effaith Amgylcheddol wedi ei noddi gan Huws Gray
Ysgol Crug Glas, Abertawe Gwobr Matt Bunt am Ragoriaeth EcoSgolion wedi ei noddi gan Eversheds Sutherland
Community Heart Productions, Sir y Fflint Gwobr Tyfu Bwyd Cymunedol wedi ei noddi gan Moondance Foundation
Ysgol Arbennig Pen y Cwm, Blaenau Gwent Gwobr Trawsnewid Cymunedol wedi ei noddi gan Clwyd Alyn
James Howes, Sir y Fflint Gwobr Gwirfoddolwr/Gwirfoddolwyr Ifanc y Flwyddyn wedi ei noddi gan Bute Energy
Eric Edwards, Sir Fynwy Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn wedi ei noddi gan Archer Technology Group
Cyflwynwyd y Wobr Cyflawniad Eithriadol i Cadwch Y Fenni’n Daclus. Ers ail-lansio yn 2019, mae Cadwch Y Fenni’n Daclus wedi mynd o nerth i nerth, gyda mwy na 60 o aelodau gweithredol yn casglu bron 90 o fagiau o sbwriel bob mis. O strydoedd i barciau, i afonydd a lonydd cefn, mae Cadwch Y Fenni’n Daclus yn mynd i’r afael â mannau gwael, yn cefnogi Cymru yn ei Blodau, ac yn gweithio’n agos gyda chynghorau lleol, ysgolion, a grwpiau cymunedol. Mae eu hymdrechion nid yn unig yn cadw’r Fenni a’r cymunedau cyfagos yn lân, ond mae hefyd yn meithrin balchder, cysylltiad, ac ymwybyddiaeth amgylcheddol.
Mae Gwobrau Cymru Daclus yn dathlu ymrwymiad eithriadol pobl ledled Cymru sy’n gweithio’n ddiflino i ddiogelu a gwella’r mannau yr ydym yn eu galw’n gartref. Ar adeg heriol iawn, mae eu hymrwymiad yn atgof pwerus bod newid yn dechrau ar garreg y drws – ac y gall gweithredu lleol ffurfio’r byd y tu hwnt iddo. Llongyfarchiadau gwresog i’n holl fuddugwyr, sydd yn dangos y gorau o’r hyn y gellir ei gyflawni gyda’n gilydd. Owen DerbyshirePrif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Owen DerbyshirePrif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
15/07/2025
15/05/2025
14/11/2024
17/09/2024
Rydyn ni’n rhoi wyneb newydd ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus ac yn awyddus i glywed eich barn. Dim ond 3–4 munud mae’r arolwg yn ei gymryd, ac fe wnaiff eich adborth wirioneddol wneud gwahaniaeth.