A A A

Enwau enillwyr ifanc yn cael eu cyhoeddi yng ngwobrau hinsawdd

Roedd yn bleser gennym gyhoeddi enillwyr ein her arloesol ar gyfer ysgolion, a ysbrydolwyd gan y Wobr Earthshot, mewn seremoni wobrwyo arbennig yng Nghaerdydd ddydd Mercher 25 Mehefin.

Fel rhan o Her Hinsawdd Cymru, gwahoddwyd ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws Cymru i gyflwyno fideos byr yn dangos syniadau creadigol i fynd i’r afael ag un o bum her fyd-eang, neu ‘Earthshots’: Adeiladu Byd Diwastraff, Glanhau Ein Haer, Trwsio ein Hinsawdd, Adfywio ac Adfer Natur ac Adfywio ein Cefnforoedd.

Roedd Her Hinsawdd Cymru yn fenter ranbarthol yng nghanolbarth a gorllewin Cymru o 2021 i 2024 a arweiniwyd gan y Prif Weinidog Eluned Morgan. Bellach, rheolir y gystadleuaeth yn genedlaethol gan dîm Eco-Sgolion Cadwch Gymru’n Daclus mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Pan sefydlais brosiect Her Hinsawdd Earthshot Cymru yn 2021, roeddwn i eisiau creu rhywbeth gwahanol - llwyfan a fyddai’n rhyddhau creadigrwydd ac angerdd pobl ifanc yng Nghymru i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Yr hyn sy’n gwneud y prosiect hwn yn arbennig yw ei fod yn cysylltu gweithredu lleol â meddwl byd-eang. Ar draws Cymru, rydym wedi gweld partneriaethau anhygoel rhwng ysgolion a sefydliadau amgylcheddol, lle nad yw myfyrwyr yn dysgu am newid hinsawdd yn unig – maen nhw’n cymryd camau gweithredu hinsawdd go iawn bob dydd.

Prif Weinidog Eluned Morgan

Sgroliwch i lawr i weld y fideos buddugol neu ewch i adran Her Hinsawdd Cymru’r wefan i ddysgu mwy.

Mae wedi bod mor ysbrydoledig gweld egni, creadigrwydd a brwdfrydedd pobl ifanc o bob rhan o Gymru yn Her Hinsawdd Cymru heddiw. Nid yn unig y mae wedi bod yn ddathliad o’r prosiectau anhygoel maen nhw eisoes yn eu harwain a’r effaith maen nhw’n ei chael, ond mae’n arwydd o fomentwm go iawn wrth symud ymlaen. Mae’r angerdd sydd wedi’i dangos yn rhoi gobaith gwirioneddol i ni ar gyfer y dyfodol. Mae’n amlwg, gyda phobl ifanc yn arwain y ffordd, fod gennym bob rheswm i fod yn optimistaidd.

Owen Derbyshire
Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus

Cafodd yr ysgolion canlynol eu cydnabod gan y Prif Weinidog a’r Dirprwy Brif Weinidog yn nathliad Her Hinsawdd Cymru yng Nghanolfan Ymwelwyr Cronfeydd Dŵr Llanisien a Llysfaen.

Enillodd Ysgol Gymunedol Pennar yn Sir Benfro‘r categori Adeiladu Byd Diwastraff gyda ffilm ysbrydoledig yn dogfennu eu hymgyrch i fynd i’r afael â gwastraff bwyd yn yr ysgol ac yn y cartref.

Roedd Ysgol Gynradd Ynysddu yn fuddugol yn y categori Glanhau Ein Haer, gan ennill gwobr am eu hymchwil arloesol ar ddefnyddio cen i fonitro ansawdd aer a’u hymdrechion i leihau allyriadau carbon yn eu hardal leol.

Cafodd Ysgol Gynradd Fochriw yng Nghaerffili eu hanrhydeddu yn y categori Trwsio ein Hinsawdd am eu prosiect ‘eco-briodas’, a dynnodd sylw at sut y gellir dathlu cerrig milltir arbennig yn gynaliadwy.

Aeth Ysgol Clywedog yn Wrecsam adref â’r brif wobr yn y categori Adfywio ac Adfer Natur am eu prosiect ffilm ar y cyd ag Ysgol Islamia Shaikh Khalifa bin Zayed ym Mangladesh a ddangosodd sut y gall ysgolion ar draws y byd feithrin bioamrywiaeth leol.  

Sicrhaodd Ysgol Uwchradd Gwernyfed ym Mhowys wobr yn y categori Adfywio ein Cefnforoedd mewn cydnabyddiaeth am eu gwaith arloesol wrth ddod o hyd i ffyrdd amgen o ddefnyddio hen boteli plastig.

Erthyglau cysylltiedig

Dathlu blwyddyn Eco-Sgolion lwyddiannus arall

17/07/2025

Darllen mwy
Mae Her Hinsawdd Cymru 2025 yma

05/02/2025

Darllen mwy
Arloeswyr ifanc yn mynd i’r afael â llygredd plastig ar gopa Yr Wyddfa

08/10/2024

Darllen mwy
Disgyblion a’r Senedd: Uwchgynhadledd Eco’r Senedd yn tanio trafodaethau amgylcheddol difyr

11/07/2023

Darllen mwy