A A A

Rydym wedi cyflawni statws ARIAN Sefydliad Carbon Literate

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi cael achrediad Arian Sefydliad Carbon Literate gan y Carbon Literacy Project sy’n cael ei gydnabod gan y CU.

Mae’r achrediad clodfawr hwn yn cydnabod y camau ystyrlon rydym wedi eu cymryd i leihau ein hallyriadau carbon, ymdrechion rhagweithiol ein staff, a’r gwaith rydym wedi bod yn ei gyflawni mewn cymunedau ers blynyddoedd lawer.

Mae Sefydliad Carbon Literate yn sefydliad sydd wedi cael achrediad gan y Carbon Literacy Project fel un sydd yn “Garbon-wybodus yn ddiwylliannol”; gyda chyfran sylweddol o’i weithlu yn Garbon-wybodus ac yn dangos ei Lythrennedd Carbon trwy ei ymddygiad sefydliadol.

Beth ydym wedi ei gyflawni hyd yn hyn?

Mae cynaliadwyedd yn cael ei sefydlu ym mhopeth rydym yn ei wneud yn Cadwch Gymru’n Daclus.

O ddefnyddio gliniaduron wedi’u gweddnewid a blaenoriaethu cyfarfodydd rhithiol, i ddewis cyflenwyr lleol lle y bo’n bosibl, mae gweithredoedd cynaliadwy yn digwydd yma bob dydd.

Mae yna hefyd rai cyflawniadau sy’n sefyll allan o’r ddwy flynedd diwethaf:

  • Rydym wedi datblygu tri chwrs Llythrennedd Carbon achrededig, pwrpasol.
  • Mae 46% o’r staff wedi gwneud hyfforddiant Llythrennedd Carbon, gan roi’r wybodaeth a’r offer iddynt weithio ar y cyd i leihau ein hallyriadau carbon sefydliadol ar y cyd.
  • Rydym wedi hyfforddi 91 o addysgwyr yng Nghymru gyda sesiynau’n cael eu darparu yn Gymraeg a Saesneg.
  • Rydym wedi hyfforddi 30 o ddysgwyr trwy ein cwrs Sgyrsiau Hinsawdd.
  • Rydym wedi gwella buddion staff i gynnwys Buddion Hinsawdd a’r cynllun llogi cerbydau trydan.

Rydym yn falch iawn o fod wedi cyflawni achrediad Arian y Sefydliad Carbon Literate. Mae’n garreg filltir bwysig ar ein taith i fod yn sefydliad gwirioneddol gynaliadwy; nid yn unig trwy’r prosiectau rydym yn eu cyflawni, ond yn y ffordd yr ydym yn gweithio bob dydd. Mae’r hyfforddiant wedi ysgogi sgyrsiau rhagorol ar draws y tîm ac yn ein helpu ni i wneud ymwybyddiaeth hinsawdd yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.

Owen Derbyshire
Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

Mae Llythrennedd Carbon yn sgil hanfodol, sy’n hollbwysig i bob gweithle, cymuned a man astudio. Dyma’r wybodaeth sylfaenol, a’r catalydd i rymuso pobl i weithredu ar yr hinsawdd, ond dim ond y cam cyntaf yw Llythrennedd Carbon. Mae’r camau sy’n cael eu cymryd a’u haddo gan ddysgwyr fel rhan o’u Llythrennedd Carbon yn cael effaith uniongyrchol yn eu sefydliad. Ond cynnal y camau hyn a chamau pellach, gyda chefnogaeth diwylliant sefydliadol Carbon-wybodus, sy’n dod â’r buddion mwyaf i’r cyfranogwyr a’u sefydliadau. Trwy ddod yn Sefydliad Arian Carbon Literate, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi dangos ei ymrwymiad i weithredu gwirioneddol i leihau carbon, effaith amgylcheddol ac economaidd, a chreu dyfodol carbon isel i ni i gyd.

Dave Coleman
Dave Coleman, Cyd-sylfeinydd a Rheolwr-gyfarwyddwr y Carbon Literacy Project

Wrth gwrs, mae bob amser mwy y gallwn ei wneud i wneud gwahaniaeth.

Rydym eisiau cyflwyno mwy o hyfforddiant dwyieithog i addysgwyr, myfyrwyr a chymunedau yng Nghymru.

Byddwn hefyd yn parhau i fuddsoddi mewn hyfforddiant staff ac yn archwilio ffyrdd arloesol o leihau ein ôl troed carbon ymhellach.

I ddarganfod mwy am ein taith cynaliadwyedd a Hyfforddiant Llythrennedd Carbon, cysylltwch â net.zero@keepwalestidy.cymru

Erthyglau cysylltiedig

Cadwch y Fenni’n Daclus yn dathlu’r dwbl yng Ngwobrau Cymru Daclus 2025

05/11/2025

Darllen mwy
Dathlu Enillwyr Gwobrau Cymru Daclus 2025

03/10/2025

Darllen mwy
Cymru unwaith eto yn chwifio mwy o Faneri Gwyrdd Cymunedol nag unrhyw wlad arall yn y byd

15/07/2025

Darllen mwy
Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Arfordir Cymru 2025!

15/05/2025

Darllen mwy