A A A

Tystiolaeth ar gyfer gweithredu

Mae Cymru’n wynebu argyfwng sbwriel!

Mae sbwriel yn niweidio ein hamgylchedd ac yn bygwth ein bywyd gwyllt. Mae hefyd yn effeithio ar ein lles, ein hiechyd a’n hamgyffrediad o ddiogelwch.

Mae data cadarn a chyson yn darparu tystiolaeth sy’n hanfodol ar gyfer gweithredu ar y cyd ar lefel genedlaethol a chymunedol.

Rydym i gyd yn gyfrifol am fynd i’r afael â’r argyfwng sbwriel.

 

Archwilio ein tystiolaeth

Mae ein data’n dangos materion sbwriel cyffredin ledled Cymru. Rydym yn casglu’r data hwn yn flynyddol trwy arolygon sbwriel cadarn, gan ddefnyddio ein methodoleg GLÂN (Dadansoddiad Sbwriel Geo-ofodol).

I ddechrau, byddwch yn gweld y canlyniadau ar gyfer y flwyddyn gyfredol, yn diweddaru rhwng Ebrill a Thachwedd, wrth i’r data gael ei gasglu. Gellir gweld blynyddoedd blaenorol trwy fynd trwy’r ddewislen ar y brig. Mae’r rhain yn cael eu cyhoeddi unwaith bydd y flwyddyn arolygu’n dod i ben.

Mae’r data’n dangos amcangyfrif o’r nifer o eitemau ar draws pob man cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar nifer yr eitemau o sbwriel a gyfrifwyd yn ystod ein harolygon a’r amcangyfrif o ardal yr holl safleoedd arolygu posibl ar draws y wlad.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein data sbwriel, e-bostiwch leq@keepwalestidy.cymru neu edrychwch ar y cwestiynau cyffredin isod.

Cwestiynau Cyffredin

Darganfyddwch fwy am ein data a’n tystiolaeth.

Beth yw GLÂN?
A yw’r canlyniadau yn gadarnhaol neu’n negyddol?
A yw eich data yn cynrychioli Cymru gyfan?
Pa mor aml mae’r data’n cael ei ddiweddaru?

Cofnodi gweithgaredd

Bob tro byddwch yn llenwi’r ffurflen hon, byddwch yn helpu i ddatblygu darlun gwell o weithgaredd gwirfoddoli ledled Cymru.

Mynd i eCyfrif Cymru

Wedi eich ysbrydoli i weithredu?

Mae grwpiau cymunedol ar hyd a lled y wlad yn chwilio am wirfoddolwyr.

Dod o hyd i’ch grŵp lleol