A A A

Pecynnau Enfawr

Mae ein Pecynnau Enfawr wedi eu cynllunio ar gyfer sefydliadau cymunedol sydd ag ardal enfawr o ofod gwag wedi ei esgeuluso (tua maint dau gwrt tennis a hanner yn fras) i’w drawsnewid yn ardd gymunedol sy’n fynnu, gyda pherllan, ardal tyfu bwyd a phwll.

Bydd swyddog wedi ei neilltuo gan Cadwch Gymru’n Daclus yn eich helpu i gynllunio a chreu eich gardd ‘enfawr’, ond mae’n rhaid i chi ymrwymo i ofalu amdani am flynyddoedd i ddod.

Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu gan banel o arbenigwyr a bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i brosiectau â chyfranogiad cryf yn y gymuned, y rhai sydd mewn trefi, dinasoedd, ardaloedd difreintiedig a mannau heb lawer o le na mynediad at natur.

Mae ceisiadau ar gyfer Pecyn Enfawr wedi’u dyrannu ar gyfer eleni. Fodd bynnag, mae croeso i chi wneud cais o hyd, ac os byddwch yn llwyddiannus, bydd eich cais yn cael ei roi ar ein rhestr wrth gefn ar gyfer Ebrill 2026.

Bydd y pecyn yn cynnwys

Gallai cynnwys pecynnau newid

  • Chwe gwely uchel
  • Planhigion Pwll bywyd gwyllt gyda phlanhigion dyfrol cynhenid
  • Gwely perlysiau
  • Planhigion perlysiau
  • Hadau llysiau
  • 15 o goed ffrwythau
  • 210 o goed ifanc
  • Bylbiau
  • Planhigion blodau gwyllt cynhenid
  • Tyweirch blodau gwyllt
  • Mainc bicnic
  • Twnnel polythen
  • Llyfrau ac adnoddau
  • Llwyni ffrwythau
  • Planhigion mefus
  • Blychau cynefin
  • Sied
  • Compostiwr
  • Offer
  • Mainc safonol
  • Casgen/cynhwysydd dŵr

Gwybodaeth bwysig

Mae isafswm yr ardal sydd ei hangen ar gyfer Pecyn Enfawr yn agos at 700 metr sgwâr.

Ddim yn siŵr a yw eich safle’n ddigon mawr? Gall y Canfyddwr Cyfeirnod Grid fod yn offeryn defnyddiol. Mae’n eich galluogi i ddod o hyd i’ch lleoliad a thynnu llun polygon, gan roi’r ardal mewn metrau sgwâr i chi. Cliciwch yma i fynd i’r Canfyddwr Cyfeirnod Grid (safle allanol)

Bydd yr amrywiaeth o goed a phlanhigion a gyflenwir yn dibynnu ar y tymor ac argaeledd.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein cwestiynau cyffredin cyn gwneud cais. Mae hwn yn brosiect ar raddfa fawr iawn, felly mae’n hanfodol eich bod yn deall y gofod a’r ymrwymiad sydd ei angen. Mae hefyd yn bwysig iawn eich bod yn gwybod pa wybodaeth a thystiolaeth sydd eu hangen arnoch cyn i chi ddechrau eich cais. Dyma’r ffordd orau o roi hwb i’ch cyfle o fod yn llwyddiannus a chael gafael ar Becyn Enfawr

Angen cymorth gyda’ch cais?

Mae gennym dri cydlynydd rhanbarthol wrth law i’ch cynorthwyo chi gyda’ch cais Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Anfonwch ebost atynt.

Cysylltwch â’r tîm

Dim lle ar gyfer Pecyn Enfawr?

Mae ein Pecynnau Gardd yn dal yn brosiectau mawr, ond dim ond yn 215-240 metr sgwâr (ychydig yn llai na maint un cwrt tennis).

Canfod mwy