A A A

Cwestiynau Cyffredinol Perllan Gymunedol

Crëwch hyb awyr agored ar gyfer eich cymuned – gofod yn llawn coed ffrwythau a chnau, planhigion cynhenid a blodau gwyllt, lle gall pobl o bob oed ddod ynghyd.

Edrychwch ar #NôliNatur ar y cyfryngau cymdeithasol am yr holl ddiweddariadau diweddaraf.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y canllaw hwn, cysylltwch â’r tîm Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Mae ceisiadau ar gyfer Pecynnau Perllan Gymunedol ac Ysgol wedi cau. Fodd bynnag, mae croeso i chi wneud cais o hyd, ac os byddwch yn llwyddiannus, bydd eich cais yn cael ei roi ar ein rhestr wrth gefn ar gyfer Ebrill 2026.

Darllenwch y canlynol cyn cyflwyno'ch cais

Mae pob pecyn wedi ei bennu ymlaen llaw felly byddwch yn derbyn yr HOLL eitemau sydd wedi eu rhestru isod. Gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o le i roi a storio’r holl eitemau angenrheidiol cyn gwneud cais.

Bydd eich swyddog Cadwch Gymru’n Daclus lleol yn cytuno ar gynllun gwaith ac amserlen ddosbarthu gyda chi, ond bydd angen eich bod ar gael i dderbyn yr holl eitemau isod yn unol â’r hyn a gytunwyd.

Eitemau perllan cymunedolManylion dosbarthu
15x coeden yn cynnwys pyst, gwarchodwyr, ac ati Cludwr
320x bylbiau cynhenidPost
Blwch cynefinCludwr blychau mawr
2x mainc blastig wedi eu hailgylchuPaled
2x llif docio, brigdociwr ymestynnol, 5x trywelion llaw, 2x siswrn tocio, can dŵr, 10x pâr o fenig Cludwr blychau mawr
Casgen ddŵrCludwr
Llyfr canllawPost
Gofynion hanfodol, cymhwysedd a’r broses ymgeisio
Yswiriant a chaniatâd y tirfeddiannwr
Y safle a chyfranogiad gwirfoddolwyr
Mwy am ein pecynnau