Mae Eco-Sgolion yn rhaglen fyd-eang sy’n ymgysylltu dros 20 miliwn o blant ar draws mwy na 100 o wledydd, sy’n golygu mai hon yw’r rhaglen addysg amgylcheddol fwyaf ar y blaned. Datblygwyd gan y Sefydliad Addysg Amgylcheddol (FEE) ym 1994 ac fe’i cynhelir yng Nghymru gan Gadwch Gymru’n Daclus.
Mae wedi ei ddylunio i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i’w hysgol a’r gymuned ehangach, tra’n datblygu eu sgiliau allweddol, yn cynnwys rhifedd a llythrennedd, a chwmpasu Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang.
Mae ein holl Eco-Sgolion yn gweithio trwy saith cam. Unwaith y mae ysgol wedi sefydlu’r broses hon ac wedi casglu tystiolaeth o’u cynnydd, gallant wneud cais am Wobr Eco-Sgolion – achrediad a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Dewch i ddarllen ein straeon ysgogwyr newid diweddaraf – mae’n arddangos yr ymgyrchoedd a'r prosiectau ysbrydoledig sy'n cael eu harwain gan ddysgwyr mewn Eco-Sgolion ledled Cymru.
Prosiect bioamrywiaeth ysgol gyfan sydd wedi trawsnewid pwll a oedd wedi gweld dyddiau gwell a chae nad oedd yn cael ei ddefnyddio i hafan bywyd gwyllt.
Ymestynnodd Ysgol Caer Drewyn ei gwaith amgylcheddol drwy wella tiroedd yr ysgol ar gyfer bioamrywiaeth.
Ysbrydoli cynaliadwyedd drwy uwchgylchu ac ymgysylltiad a’r gymuned.
Mae’r plant yn Ysgol Feithrin Rhydaman yn archwilio bwyd, iaith a thraddodiadau o gwmpas y byd i ddatblygu amrywiaeth ddiwylliannol.
Rydym eisiau ysbrydoli a grymuso pobl ifanc i ysgogi newid amgylcheddol cadarnhaol.
Mae ein hadnoddau di-dâl wedi’u dylunio gan ein tîm addysg arbenigol ar gyfer ysgolion cynradd, uwchradd a theuluoedd.
Mae ein hadnoddau ar gyfer ysgolion cynradd wedi’u dylunio i gyflwyno dysgwyr ifanc i rai o’r materion amgylcheddol mwyaf pwysig sy’n wynebu Cymru a’r byd.
Mae gennym ystod eang o adnoddau uwchradd sydd wedi’u dylunio i ysbrydoli myfyrwyr i weithredu ac mae pob un o’r adnoddau hyn wedi’u cysylltu â Chwricwlwm Cymru.
Gwaith cartref gwahanol! Creu eco-gartref gyda heriau hwyliog i’r teulu cyfan.
Gallwch ganfod sut mae ysgolion yn eich ardal chi’n ei wneud ar y rhaglen Eco-Sgolion.
Gallwch gymryd rhan mewn ymgyrch, ymuno â gwers am ddim, a dal i fyny â hyfforddiant diweddar.