Eco-Schools
A A A

Pryd bynnag y byddwn yn llosgi rhywbeth, rydym yn creu nwyon a gronynnau bach sy’n llygru ein haer. Mae hyn yn cynnwys llosgi tanwydd yn ein cerbydau, llosgi tanwydd yn ein cartrefi, pweru ffatrïoedd a diwydiant, a thanau coedwigoedd. 

Nid yn unig y mae’r nwyon hyn yn cyfrannu’n sylweddol at newid yn yr hinsawdd, ond maent hefyd yn fygythiad difrifol i’n hiechyd. 

Ar gyfer yr her hon rydych yn gallu ystyried: 

  • Ymchwilio i lygredd o geir o amgylch eich ysgol, yn enwedig ar amseroedd pan fydd plant yn cyrraedd a gadael y safle.  
  • Ymchwilio i sut mae ynni adnewyddadwy yn cael ei wneud a pha fath o ynni sy’n cyflenwi eich ysgol a’ch cartref. 
  • 2024 oedd y flwyddyn gyntaf i ffynonellau adnewyddadwy gynhyrchu mwy o ynni na thanwydd ffosil. Pa wledydd sy’n arwain y ffordd gyda’r newid hwn? 
  • Opsiynau i ddewis trafnidiaeth lân, wyrdd, gan gynnwys teithio llesol 
  • Dod o hyd i fwyd a chynnyrch sy’n cael eu cynhyrchu’n lleol i dorri i lawr ar nwyon trafnidiaeth 
  • Beth yw rôl planhigion wrth lanhau ein haer, y tu allan a’r tu mewn? 

Gwybodaeth angenrheidiol ar gyfer yr her hon

Bydd angen i chi ymdrin â’r pwyntiau canlynol yn eich fideo.  

  • Cyflwyno eich ysgol a’ch Earthshot a pham y gwnaethoch ddewis yr  her.  
  • Rhannu eich ateb yn yr ysgol – beth ydych chi wedi’i wneud neu’n bwriadu ei wneud a pham?  
  • Sut mae wedi gwneud gwahaniaeth neu sut y byddwch chi’n gwybod a yw eich syniad wedi gwneud gwahaniaeth?  
  • Rhannu eich datrysiad arloesol fyd-eang, yr ymchwil y tu ôl iddo a pha effaith y byddech chi’n gobeithio y gall ei chael. 
  • Unrhyw wybodaeth arall yr ydych am ei chynnwys sy’n berthnasol i’r beirniaid.  

Cofiwch fod yn greadigol gyda’ch fideo a cheisio ‘gwerthu’ eich syniad!  

Dylech chi ffilmio fideos mewn modd tirwedd ac ni ddylai’r fideos fod yn hwy na thri munud. 

Mae croeso i geisiadau yn Gymraeg a Saesneg, a gallwn dderbyn hyd at bum cais o bob ysgol. Y dyddiad cau yw 18.00 ddydd Gwener 10 Ebrill. 

Gwyliwch enillydd a chystadleuwyr y rownd derfynol eleni a chael eich ysbrydoli

Enillydd: Ynysddu Primary School

Ymgeisydd Terfynol: Whitchurch Primary School

Ymgeisydd Terfynol: Ysgol Gymraeg Ffwrnes

Angen helpu gyda’ch cais Her Hinsawdd Cymru?

Cysylltwch â’ch swyddog Eco-Sgolion Cymru lleol

Archwilio Earthshots eraill

Adeiladu Byd Diwastraff

Canfod mwy
Trwsio Ein Hinsawdd

Canfod mwy
Adfywio ac Adfer Natur

Canfod mwy
Adfywio Ein Cefnforoedd

Canfod mwy