Eco-Schools
A A A

Mae’r byd naturiol yn anhygoel ac wedi esblygu i fod mewn cydbwysedd perffaith, gyda phopeth byw yn chwarae rhan bwysig ynddo.  

Yn anffodus, mae natur dan fygythiad ac mae gweithredoedd bodau dynol yn cael effaith negyddol ar gynefinoedd yn lleol ac yn fyd-eang.  

Diolch byth, mae natur yn rhoi’r atebion i lawer o’r heriau y mae ein planed yn eu hwynebu! 

Mae gweithio gyda natur a’i hadfer yn helpu ein hinsawdd; Mae’n helpu i ddarparu dŵr glân, aer glân ac yn creu byd diwastraff! 

Ar gyfer yr her hon gallech ystyried: 

  • Rhywogaethau dan fygythiad yn lleol a sut i’w cefnogi 
  • Atebion sy’n seiliedig ar natur  
  • Sut i osgoi datgoedwigo a chymryd camau i ailgoedwigo 
  • Adfywio ffermio a thyfu eich bwyd eich hun 
  • Creu cynefinoedd  

Gwybodaeth angenrheidiol ar gyfer yr her hon

Bydd angen i chi ymdrin â’r pwyntiau canlynol yn eich fideo.  

  • Cyflwyno eich ysgol a’ch Earthshot a pham y gwnaethoch ddewis yr  her.  
  • Rhannu eich ateb yn yr ysgol – beth ydych chi wedi’i wneud neu’n bwriadu ei wneud a pham?  
  • Sut mae wedi gwneud gwahaniaeth neu sut y byddwch chi’n gwybod a yw eich syniad wedi gwneud gwahaniaeth?  
  • Rhannu eich datrysiad arloesol fyd-eang, yr ymchwil y tu ôl iddo a pha effaith y byddech chi’n gobeithio y gall ei chael. 
  • Unrhyw wybodaeth arall yr ydych am ei chynnwys sy’n berthnasol i’r beirniaid.  

Cofiwch fod yn greadigol gyda’ch fideo a cheisio ‘gwerthu’ eich syniad!  

Dylech chi ffilmio fideos mewn modd tirwedd ac ni ddylai’r fideos fod yn hwy na thri munud. 

Mae croeso i geisiadau yn Gymraeg a Saesneg, a gallwn dderbyn hyd at bum cais o bob ysgol. Y dyddiad cau yw 18.00 ddydd Gwener 10 Ebrill. 

Gwyliwch enillydd a chystadleuwyr y rownd derfynol eleni a chael eich ysbrydoli

Click on the boxes below to watch their entries. 

Enillydd: Ysgol Clywedog

Ymgeisydd Terfynol: St Mary's Roman Catholic Primary School

Ymgeisydd Terfynol: Prendergast Community School

Ymgeisydd Terfynol: Richmond Park Primary School

Angen helpu gyda’ch cais Her Hinsawdd Cymru?

Cysylltwch â’ch swyddog Eco-Sgolion Cymru lleol  

Archwilio Earthshots eraill

Adeiladu Byd Diwastraff

Canfod mwy
Glanhau Ein Haer

Canfod mwy
Trwsio Ein Hinsawdd

Canfod mwy
Adfywio Ein Cefnforoedd

Canfod mwy