Yn Eco-Sgolion Cymru, ein cenhadaeth yw tanio gwreichionen o ymwybyddiaeth amgylcheddol mewn pobl ifanc, gan greu cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o warcheidwaid angerddol i’n planed.
Mae ein hysgogwyr newid ifanc nid yn unig yn dysgu am faterion amgylcheddol, maen nhw’n gwneud i bethau ddigwydd; maen nhw’n datblygu ymgyrchoedd a phrosiectau ysbrydoledig sy’n trawsnewid eu hysgolion a’u cymunedau.
Gyda’i gilydd maen nhw’n creu newid cadarnhaol sy’n atseinio ymhell y tu hwnt i’w hysgolion.
Cliciwch ar y blychau i ddarllen am rai o'r gweithgareddau anhygoel sy'n digwydd mewn Eco-Sgolion ledled y wlad.
Oes stori gennych yr hoffech ei rhannu? Llenwch ein ffurflen ac ysbrydolwch eraill.
Ysbrydoli cynaliadwyedd drwy uwchgylchu ac ymgysylltiad a’r gymuned.
Ymestynnodd Ysgol Caer Drewyn ei gwaith amgylcheddol drwy wella tiroedd yr ysgol ar gyfer bioamrywiaeth.
Prosiect bioamrywiaeth ysgol gyfan sydd wedi trawsnewid pwll a oedd wedi gweld dyddiau gwell a chae nad oedd yn cael ei ddefnyddio i hafan bywyd gwyllt.
Mae’r plant yn Ysgol Feithrin Rhydaman yn archwilio bwyd, iaith a thraddodiadau o gwmpas y byd i ddatblygu amrywiaeth ddiwylliannol.
Ysgol Llandrillo yn Rhos yn mynd i’r afael â sbwriel, gan waredu dros 100kg o’r ardal leol.
Mae Ysgol Pum Heol yn ennyn diddordeb dysgwyr mewn dysgu am faterion amgylcheddol, yn enwedig ansawdd aer, cludiant, a newid hinsawdd.
Mae grŵp penderfynol o ddysgwyr yn Ysgol Maes Owen wedi gwneud safiad i amddiffyn ein cefnforoedd a lleihau gwastraff plastig.
Taclo gwastraff bwyd yn y ffreutur yn ystod amseroedd cinio. Taclo maint dognau, dewisiadau bwydlen a gwastraff.
Roedd dysgwyr ifanc yn Ysgol Gynradd Abermorddu wedi rhoi eu sgiliau garddio ar brawf wrth iddynt hau a meithrin hadau pwmpen yn eu dosbarth.
Lleihau faint o wastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi yn Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant Casnewydd
Oeddech chi’n gwybod bod 90% o ysgolion yng Nghymru yn rhan o’r rhaglen Eco-Sgolion?
Cliciwch ar y pinnau ar y map i ddarganfod a yw eich ysgol leol yn chwifio’r wobr Baner Werdd ryngwladol neu wedi cyrraedd statws platinwm – sy’n golygu mai chi yw un o’r goreuon!
Cysylltwch ag eco-schools@keepwalestidy.cymru neu’ch cydlynydd Eco-Sgolion lleol os hoffech eich pin ysgol ddiweddaru.