A A A

4 parc yng Nghymru yn cyrraedd 10 uchaf y DU

Mae Gardd Enfys yng Ngheredigion, Campws Singleton Prifysgol Abertawe, Parc Gwledig Gnoll a Pharc Gwledig Margam – y ddau yng Nghastell Nedd Port Talbot – i gyd wedi sicrhau lle yn 10 Uchaf y DU Dewis y Bobl o’r 2,250 o safleoedd Y Faner Werdd ledled y DU. 

Gwnaed y cyhoeddiad mewn seremoni wobrwyo rithiol ledled y DU ar 20 Tachwedd, yn dilyn cadarnhad ym mis Gorffennaf bod pob un o’r pedwar safle wedi cyflawni statws y Faner Werdd unwaith eto. 

Cafwyd dros 35,864 o bleidleisiau gan aelodau’r cyhoedd yng ngwobrau Dewis y Bobl eleni. 

Dyma ddeuddegfed ymddangosiad Parc Gwledig Margam, Castell-nedd Port Talbot yn y 10 uchaf, a’r ail i Ardd Enfys, Ceredigion. Mae Parc Gwledig Gnoll a Champws Singleton Prifysgol Abertawe yn dathlu cael eu cynnwys am y tro cyntaf. 

Dewiswyd y pedwar man gwyrdd hyn gan y cyhoedd o blith 2,250 o safleoedd Y Faner Werdd yn y DU. 

Cafwyd llwyddiant ychwanegol i Gymru yng Ngwobrau y Gorau o’r Goreuon: cafodd Parc Gwledig Gnoll ei gydnabod am y Prosiect Bioamrywiaeth / Creu Cynefin Gorau ac enwyd Ethan Dando o Brosiect Datblygu Cymunedol Llanharan fel Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn. 

Yn hanesyddol, mae perfformiad Cymru wedi bod yn gryf yng ngwobrau’r hydref, gan sicrhau sawl lle yn 10 Uchaf y DU yn gyson a derbyn sawl gwobr y Gorau o’r Goreuon. 

Mae cyflawniadau eleni yn dilyn blwyddyn wych arall i Gymru yng Ngwobrau y Faner Werdd, gan ragori ar record y wlad yn 2024 am y nifer uchaf o Wobrau Cymunedol y Faner Werdd gan unrhyw wlad ar draws y byd. 

Yn 2024, dathlodd Cymru 119 o safleoedd cymunedol gyda’r Faner Werdd, carreg filltir y rhagorwyd arni unwaith eto ym mis Gorffennaf 2025 gyda 223 o safleoedd cymunedol yn cyflawni’r wobr. 

Rydym yn hynod falch i weld pedwar man gwyrdd yng Nghymru yn cael eu cydnabod yn 10 Uchaf y DU Dewis y Bobl. Mae’n wych gweld safloedd hirsefydlog fel Parc Gwledig Margam a Gardd Enfys yn cael eu dathlu unwaith eto, tra bod Parc Gwledig Gnoll a Champws Singleton Prifysgol Abertawe yn ymddangos yn haeddiannol am y tro cyntaf. Mae’r canlyniadau hyn yn dangos faint mae ein cymunedau yn gwerthfawrogi mannau gwyrdd o ansawdd uchel, ac mae presenoldeb cryf y cyhoedd yn dangos y balchder y mae pobl yn ei deimlo am y mannau hyn ar garreg y drws. Mae Cymru’n parhau i berfformio’n eithriadol o dda yng Ngwobrau y Faner Werdd, gyda chydnabyddiaeth genedlaethol am ein safleoedd a’n gwirfoddolwyr. Mae’r llwyddiant hwn yn dangos ymroddiad yr unigolion a’r grwpiau sy’n gweithio’n ddiflino i ddiogelu a gwella ein hamgylchedd.

Lucy Prisk
Cydlynydd y Gwobrau yn Cadwch Gymru’n Daclus

Cyflwynir cynllun Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan Cadwch Gymru’n Daclus gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.

Dysgu am Gwobr Faner Werdd yma.

Erthyglau cysylltiedig

Lleisiau ifanc yn arwain y ffordd wrth fynd i’r afael â sbwriel yn Sir Gaerfyrddin

10/12/2025

Darllen mwy
Mae Her Hinsawdd Cymru yn dychwelyd ar gyfer 2026!

04/11/2025

Darllen mwy
Gwahodd grwpiau cymunedol i ddweud eu dweud!

30/09/2025

Darllen mwy
Ffurfio polisi amgylcheddol: Pwysigrwydd data gwirfoddolwyr

30/09/2025

Darllen mwy