Caru Cymru
A A A

Galw pob ysgol!

Yn Cadwch Gymru’n Daclus, rydym yn credu’n gryf nad oes unrhyw un yn rhy fach i wneud gwahaniaeth mawr. A, phan fyddwn i gyd yn dod ynghyd, gall y gwahaniaeth mawr hynny fynd yn enfawr!

Os yw pob plentyn sy’n mynychu’r ysgol yng Nghymru yn codi un bag o sbwriel yn unig yn ystod yr Ymgyrch Fawr i Llanhau Ysgolion, gallem godi 500,000 anhygoel o fagiau o sbwriel o’n hamgylchedd naturiol.

Mae cymryd rhan yn y Ymgyrch Fawr i Lanhau Ysgolion hefyd yn ychwanegiad perffaith at ein Cynllun Gweithredu Eco-Sgolion, gan helpu eich ysgol i gyflawni neu gadw gwobr y Faner Werdd. Edrychwch ar ein Canllaw Ymgyrch Fawr i Lanhau Ysgolion am fwy o fanylion.

GWNEUD ADDEWID AR GYFER GWANWYN GLÂN CYMRU AC YMGYRCH FAWR I LANHAU YSGOLION 2026 YN AGOR 13 CHWEFROR 2026.

Ewch i'r Canllaw Ymgyrch Fawr i Lanhau Ysgolion

Sut i ymuno â’r Ymgyrch Fawr Glanhau Ysgolion

Gallwch gynnal ddigwyddiad glanhau (neu sawl digwyddiad glanhau) unrhyw bryd rhwng 13 – 29 Mawrth, gan gasglu gymaint o sbwriel ag y gallwch. Efallai eich bod eisiau trefnu eich digwyddiadau glanhau yn ystod amser chwarae, amser gwersi, cyn ysgol neu ar ôl ysgol – mae i fyny i chi yn gyfan gwbl.

Rhowch wybod i ni faint o ddisgyblion fydd yn cymryd rhan, am ba hyd, a faint o fagiau y maent yn addo eu casglu trwy lenwi’r ffurflen isod. Rydym yn croesawu meithrinfeydd i ymuno â ni hefyd!

Ymunwch â Gwers Sbwriel Fyw!

Mae Tîm EcoSgolion Cymru wedi cynllunio gweithdai arbennig iawn i helpu disgyblion i baratoi ar gyfer Gwanwyn Glân.

Bydd y gweithdai rhyngweithiol hyn yn ymgysylltu dysgwyr i archwilio popeth yn ymwneud â sbwriel. O ble mae’n dod? Pam mae’n broblem? Beth allwn ni ei wneud am y peth?!

Ymunwch â’n Gwersi Sbwriel Byw ar 12 a 13 Mawrth.

Cofrestrwch eich dosbarth nawr

Beth yw’r buddion i ddisgyblion?

  • Mae digwyddiadau glanhau yn hwyliog ac yn rhoi boddhad.
  • Mae plant yn gallu gwneud gwahaniaeth i’w hardal leol a’r byd y maent yn byw ynddo.
  • Mae codi sbwriel yn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu, gellir eu cysylltu â’r Cwricwlwm ac mae’n cyfrif tuag at eich Baner Werdd Eco-Sgolion.
  • Gall eich ysgol greu cysylltiadau cryf â’r gymuned leol.
  • Mae digwyddiadau glanhau yn gwella ymwybyddiaeth amgylcheddol ymysg disgyblion.
  • Gall codi sbwriel hefyd helpu gydag iechyd a lles meddwl plant trwy gadw’n egnïol a chysylltu â’i gilydd.

Gwnewch y gorau o’ch digwyddiad glanhau

Yma fe gewch syniadau ar gyfer eich disgyblion, ysbrydoliaeth a chyngor ar gyfer eich digwyddiad Glanhau Ysgolion, yn ogystal ag adnoddau i’ch helpu i roi’r gair ar led.

Canfod mwy

Ddim yn rhan o Eco-Sgolion? Canfyddwch y buddion

Gwneud ffrindiau. Newid ymddygiad. Magu hyder. Ni allwch amcangyfrif yn rhy isel buddion bod yn rhan o deulu Eco-Sgolion.

Canfod mwy