A A A

RSPCA gefnogi Gwanwyn Glân Cymru

Mae ystadegau newydd brawychus gan RSPCA Cymru yn dangos yr effaith ddinistriol y mae sbwriel yn ei chael ar anifeiliaid gwyllt ac anifeiliaid anwes yng Nghymru, gyda’r elusen yn cefnogi ein galwadau i bobl ledled Cymru helpu i lanhau eu cymunedau a’u mannau hardd lleol fel rhan o Gwanwyn Glân Cymru 2025.

O 2,199 o adroddiadau a dderbyniwyd gan yr RSPCA am anifeiliaid wedi eu heffeithio gan sbwriel yn 2024, roedd 121 o’r rhain yng Nghymru, gyda’r rhan fwyaf o adroddiadau yn dod o Gaerdydd (20), Sir Ddinbych (15), Abertawe (12) a Chonwy (12).

Wedi eu hanafu ormod i oroesi

Roedd rhai o’r adroddiadau mwyaf anodd o Gymru yn cynnwys alarch yn Nhredegar oedd wedi llyncu bachyn pysgota ac wedi cael peled yn gaeth y tu mewn i’w phen, a hwyaden oedd wedi ei dal mewn llinell bysgota yn Hwlffordd oedd yn cynnwys ymgyrch achub ar y cyd gan yr RSPCA a Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Yn anffodus, roedd y ddau anifail wedi eu hanafu ormod i oroesi a bu’n rhaid eu rhoi i gysgu er eu lles nhw.

Ymgyrchoedd achub llwyddiannus

Ond, fe wnaeth achubwyr yr RSPCA achub lawer o anifeiliaid eraill oedd wedi eu heffeithio gan sbwriel yng Nghymru, yn cynnwys gŵydd Canada a gwyllt yn Aberdâr gafodd ei chanfod gyda chan wedi glynu wrth ei cheg; brân yn Abertawe aeth yn gaeth i erial oherwydd bag plastig oedd wedi ei lapio o amgylch ei choes chwith; ac ail hwyaden yn Hwlffordd gyda’i choes wedi ei dal mewn gwialen bysgota, ond yn ffodus nid oedd wedi ei hanafu mor wael â’i chydymaith ac yn gallu dychwelyd i’w chartref ar Afon Cleddau.

Wythnos diwethaf, cafodd bronfraith ei hachub yn llwyddiannus ger Pont-y-pŵl ar ôl cael ei dal ar weiren ar gangen coeden 40 troedfedd yn yr awyr, diolch i staff Cymdeithas Dai Sir Fynwy a alwodd yr RSPCA ar ôl gweld ei bod yn amlwg mewn trallod. Roedd ymgyrch ar y cyd rhwng tîm achub yr RSPCA, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a thriniaeth gan filfeddyg yn golygu bod yr aderyn yn ddigon da yn fuan i ddychwelyd yn ôl i’r gwyllt.

Modd osgoi llawer o ddigwyddiadau

Ar draws Cymru a Lloegr, cafwyd mwy o adroddiadau am lwynogod (160), ceirw (48) a draenogod (31) oedd wedi cael eu heffeithio gan sbwriel nag unrhyw famaliaid eraill yn 2024. Ymysg adar gwyllt, adroddiadau am golomennod oedd uchaf (516), ac yna elyrch (445) a gwylanod (383).

Mae ein hachubwyr yn ymdrin â chymaint o ddigwyddiadau y gellir eu hosgoi bob blwyddyn lle mae anifeiliaid wedi cael eu heffeithio gan sbwriel. Hen ganiau a photeli diodydd, eitemau plastig a hyd yn oed fêps tafladwy yw rhai o’r eitemau sy’n beryglus i’n bywyd gwyllt – yn cynnwys, yn fwy nag unrhyw famaliaid eraill, llwynogod, ceirw a draenogod. Gall anifeiliaid fwyta’r sbwriel neu gael eu dal ynddo, gan arwain at anafiadau, llurguniadau a hyd yn oed marwolaeth. Yn anffodus, am bob anifail yr ydym yn gallu ei helpu, mwy na thebyg bod llawer mwy yn mynd heb eu gweld, heb eu hadrodd a gallai rhai o’n cyd-greaduriaid byw hyd yn oed golli eu bywydau. Ond gall y cyhoedd ein helpu ni i ddiogelu anifeiliaid, ac atal y digwyddiadau hyn rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Carrie Stones
Dywedodd rheolwr ymgyrch gwrth-sbwriel yr RSPCA

Rydym yn bryderus iawn am yr adroddiadau parhaus am sbwriel yn cael effaith negyddol ar anifeiliaid yng Nghymru. Mae anifeiliaid anwes, bywyd gwyllt ac anifeiliaid eraill yn rhy aml yn cael eu brifo, eu hanafu neu’n waeth gan sbwriel sydd wedi ei daflu’n esgeulus, p’un ai’n bacedi bwyd, caniau diodydd a bagiau plastig, neu fonion sigaréts, ac offer pysgota neu deganau wedi eu taflu. Rydym yn ategu galwadau’r RSPCA yn atgoffa aelodau’r cyhoedd i sicrhau bod yr holl sbwriel yn cael ei waredu’n iawn, i helpu i gadw ein hanifeiliaid anwes a’n bywyd gwyllt yn ddiogel rhag niwed. Rydym hefyd yn gofyn i bobl ledled Cymru ymuno â ni yn Gwanwyn Glân Cymru eleni, gan helpu i lanhau ein cymunedau lleol a’n mannau hardd, gan eu gwneud yn fwy diogel a phleserus i bawb, yn cynnwys bywyd gwyllt.

Owen Derbyshire
Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

Mae gan yr RSPCA wybodaeth fanwl ar ei wefan am yr hyn i’w wneud os byddwch yn dod o hyd i anifail sydd wedi cael ei frifo neu ei anafu, oherwydd sbwriel neu unrhyw reswm arall.

Nid yw’n rhy hwyr i gymryd rhan! Mae Gwanwyn Glân Cymru yn rhedeg tan 6 Ebrill. Cofrestrwch eich digwyddiad glanhau eich hun neu ymunwch â digwyddiad cyhoeddus.

Canfod mwy

 

Erthyglau cysylltiedig

Cyflwyno Bin Môr Abertawe

19/02/2025

Darllen mwy
Cadwch Gymru’n Daclus yn dileu sbwriel cas!

24/01/2025

Darllen mwy
Angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â’r argyfwng sbwriel cynyddol

18/10/2024

Darllen mwy
Oedi i’r cynllun dychwelyd ernes: ein hymateb

29/04/2024

Darllen mwy