Oeddech chi’n gwybod, mae dros 2,000 o erddi wedi cael eu creu, trawsnewid, a’u gwella ers lansio cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn 2020?
Rydym yn dathlu’r garreg filltir hon trwy roi cannoedd o erddi newydd i ffwrdd!
Gall grwpiau cymunedol a sefydliadau ledled Cymru nawr wneud cais am becynnau gardd rhagdaledig, am ddim i adfywio ardaloedd segur yn erddi ffyniannus.
Mae’r pecynnau’n amrywio o erddi bach ar raddfa lai i berllannau a thrawsnewidiadau cymunedol mawr. Mae pob un yn cynnwys planhigion brodorol, offer, deunyddiau ac adnoddau ymarferol i roi hwb i’ch prosiect.
Dyma drosolwg byr o’r pecynnau sydd ar gael am ddim:
Rydym yn annog cymunedau i wneud cais yn gynnar i osgoi colli’r cyfle. P’un ai eich bod eisiau tyfu eich ffrwythau a’ch llysiau eich hun, creu gofod tawel, neu hybu bioamrywiaeth, mae pecyn gardd i chi.
Mae’n hawdd cymryd rhan, Ewch i dudalen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ar y we, dewiswch eich pecyn, darllenwch y canllawiau, a llenwch y ffurflen gais ar-lein, gan sicrhau eich bod yn ateb pob cwestiwn.
Gall grwpiau cymunedol a sefydliadau o bob math a maint wneud cais. Mae elusennau iechyd a chlybiau ieuenctid, timau chwaraeon a sefydliadau ffydd i gyd wedi elwa dros y misoedd diwethaf.
Angen help? Mae ein Tîm Natur yma i’ch cefnogi. E-bostiwch: nature@keepwalestidy.cymru
Mae menter Cadwch Gymru’n Daclus yn rhan o raglen ehangach ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru sydd wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella natur ‘ar garreg y drws’.
Edrychwch ar #NôliNatur ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y diweddariadau i gyd.
30/09/2025
21/07/2025
17/07/2025