Caru Cymru
A A A

Helpwch ni i godi llais!

Trwy ymuno â Gwanwyn Glân Cymru, rydych yn gwneud rhywbeth gwych i’ch ardal leol. Os ydych eisiau ysbrydoli eraill i wneud newidiadau a diogelu’r amgylchedd ar garreg y drws, helpwch ni i godi llais am yr ymgyrch.

Rydym wedi creu amrywiaeth o adnoddau am ddim i’ch helpu i roi’r gair ar led gyda’ch dilynwyr, y gymuned ehangach a’r cyfryngau lleol.

Cliciwch ar y blychau isod i lawrlwytho posteri, graffeg y cyfryngau cymdeithasol a thempledi datganiadau i’r wasg.

Pa bynnag gamau yr ydych yn eu cymryd, peidiwch anghofio tagio @KeepWalesTidy yn eich negeseuon, eich straeon a’ch rîls gan ddefnyddio’r hashnodau #SpringCleanCymru, #GwanwynGlanCymru, #CarwchEichCartref a #LoveWhereYouLive.

Os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â ni. Ebostiwch y tîm yn springclean@keepwalestidy.cymru

Graffeg y cyfryngau cymdeithasol
Posteri
Templedi datganiadau i’r wasg
Tystysgrif

Sut i drefnu digwyddiad diogel

Peidiwch anghofio ymweld â’n tudalen ‘cynllunio eich digwyddiad glanhau’ am wybodaeth hanfodol ar ddiogelwch, offer a chasgliadau.

Dysgu mwy

Ble mae digwyddiadau glanhau eraill yn digwydd?

Ewch i’r map i weld pryd a ble mae digwyddiadau glanhau eraill yn digwydd.

Mynd i’r map