Mae Gwanwyn Glân Cymru ac Ymgyrch Fawr i Lanhau Ysgolion yn ôl ar gyfer 2026.
Rydym yn galw ar unigolion, teuluoedd, grwpiau, ysgolion a busnesau i weithredu rhwng 13 a 29 Mawrth.
Ers 2016, mae degau ar filoedd o arwyr sbwriel wedi dangos eu bod yn caru eu cartref trwy gasglu tunelli o sbwriel ac ailgylchu.
Allwn ni ddibynnu arnoch chi i’n helpu ni y gwanwyn hwn?
P’un ai eich bod wedi hen arfer, neu’n newydd i godi sbwriel, mae gennym yr holl wybodaeth a’r cyngor sydd ei angen arnoch i ddechrau arni. Gallwch:
Gallwch drefnu eich digwyddiad glanhau eich hun (neu sawl un) yn ystod Gwanwyn Glân Cymru. Cofrestrwch y manylion gan ddefnyddio’r ffurflen isod a darllenwch ein cyngor ar gyfer cynllunio digwyddiad llwyddiannus.
Gallwch ymuno â digwyddiad glanhau wedi ei drefnu – ewch i’n map am fanylion digwyddiadau agored sy’n cael eu cynnal gan ein tîm, grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill.
Os ydych chi’n ysgol, ymunwch â’r Ymgyrch Fawr i Lanhau Ysgolion.
Darllenwch ein cyngor ar ddiogelwch, defnyddiwch yr offer cywir a chanfyddwch sut i waredu’r sbwriel yr ydych yn ei gasglu.
Lawrlwythwch bosteri, graffeg y cyfryngau cymdeithasol a deunydd hyrwyddo eraill am ddim.
Ewch i’r map i weld pryd a ble mae digwyddiadau glanhau yn digwydd.
Mae angen i bawb sy’n cymryd rhan roi gwybod i ni faint o sbwriel y maent wedi ei gasglu gan ddefnyddio ein ffurflen eCyfrif Cymru.
Galw pob ysgol! Mae digwyddiadau glanhau yn hwyl, yn rhoi boddhad ac yn gallu bod yn hwb mawr i les plant!
Gwyddom fod gweithredoedd bach ar garreg y drws yn gwneud gwahaniaeth mawr. Ac mae’r effaith honno’n lluosogi pan fyddwn yn dod at ein gilydd i weithredu yn yr un ffordd ar yr un pryd. Dyma pam mae Gwanwyn Glân Cymru yn rhan o’r Great British Spring Clean, sydd yn cael ei redeg yn Lloegr a’r Alban gan ein cyfeillion yn Keep Britain Tidy a Keep Scotland Beautiful.
Yn 2024, gwnaeth #ArwyrSbwriel yng Nghymru, Lloegr a’r Alban addewid i godi 425,626 anhygoel o fagiau o sbwriel.
Ond pam mae hyn yn bwysig?
Rydym wedi ymrwymo i ddileu sbwriel a gwastraff, ond gallwn ni ddim gwneud hynny ar ein pen ein hunain.